Mae Ochr yn Ochr yn wasanaeth Cymdeithas Alzheimer sy'n
helpu pobl â demensia i barhau i wneud y pethau maen nhw'n eu caru a chael mynd
allan drwy gefnogaeth gwirfoddolwr. Gall y cymorth ychwanegol hwn ei gwneud
hi'n haws i bobl â demensia wneud pethau rydym ni yn cymryd yn ganiataol a
theimlo'n rhan o'u cymuned.
Gallech gefnogi person â dementia i wneud y canlynol -
mynd i'r parc lleol, i'r sinema, codi hen hobi, ymweld ag amgueddfeydd lleol,
ceisio gweithgaredd hamdden newydd neu aros gartref a sgwrsio. Mae yna opsiwn
hefyd ar gyfer cefnogaeth dros y ffôn, lle gallwch chi sgwrsio dros y ffôn i'r
person â dementia os fyddant angen hynny.
Sut mae'r rôl hon yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd gwirfoddolwyr Ochr wrth Ochr yn darparu cefnogaeth
gytûn i bobl â dementia y gallai hyn fod naill ai trwy ymweld â nhw yn eu
cartrefi, gan eu galluogi i gadw'n heini, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol
a hamdden priodol yn eu cymuned neu dim ond cael sgwrs ffôn, pa un bynnag
fyddant angenMae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com