Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
03/01/2014
GRWP CYMUNEDOL POBL BANGOR
Rydym yn chwilio am bobl i helpu gyda gwahanol rolau o fewn y pwyllgor i ledaenu'r llwyth o drefnu digwyddiadau cymunedol. Cysylltwch a ni os oes gennych awr neu ddwy i sbario.
WILD ELEMENTS
WILD ELEMENTS yn helpu pobl agosau at natur drwy gael hwyl. Gallwch helpu gyda un o'r cyfleoedd canlynol - Cynorthwydd Ysgol Goedwig; Cyfieithydd; Cyfryngau Cymdeithasol. Cysylltwch a ni heddiw.
11/09/2013
Y Felin Gylchu - Felinheli
Siop y Felin Gylchu
A oes gennych amser i roi i'r grwp yma sydd yn rhedeg siop nwyddau ail law. Grwp prysur sydd yn rhoi eu holl elw i achosion lleol. Maent yn chwilio am help ar ddydd Iau yn arbennig. Cysylltwch a ni am wybodaeth pellach neu galwch mewn yn y siop am baned a sgwrs. Croeso cynnes i bawb.16/08/2013
Digartref Ynys Môn yn helpu pobl digartef i fyw yn ddiogel
Gwirfoddolwyr Aros Dros Nos
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr all ddarparu ystafell wely, pryd o fwyd gyda'r nos a brecwast ar gyfer 1-3 noson fel llety brys ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed. Ad-delir Treuliau. Darperis hyfforddiant a chefnogaeth 24 awr.SOVA - yn cynyddu cyflogaeth BME yng Nghymru
Rydym yn croesawu diddordeb gan athrawon gwirfoddol i ddysgu Saesneg a TG. Addysgu Saesneg a TG ar lefel sylfaenol ar sail 1-1 gan gynnwys gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chwilio am swydd. Cysylltwch â ni heddiw am fwy o wybodaeth.
Cymorth i Ddioddefwyr Trosedd
Cymorth i Ddioddefwyr yw'r elusen genedlaethol sy'n gweithio gyda dioddefwyr troseddau drwy ddarparu cymorth emosiynol a chyngor ymarferol. Rydym yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr i gynnal Archwiliadau Diogelwch Rhag Tân. A oes gennych sgiliau DIY? byddem yn falch iawn o glywed gennych. Rhoddir hyfforddiant llawn.
09/08/2013
HOST UK - Cyfnewid Diwylliannol
Host byr-dymor - Dyddiau neu Penwythnosau Cyfnewid Diwylliannol
Gwneud y byd yn ychydig mwy
cyfeillgar! Treuliwch ddiwrnod neu benwythnos gyda myfyriwr rhyngwladol/oedolion, dysgu am eu
diwylliant, gan ddangos eich ardal leol iddynt ac yn eu gwahodd i brofi eich
bywyd cartref eich hun. Cysylltwch a ni heddiw am fwy o fanylion.
Canolfan Tan y Maen, Blaenau Ffestiniog
Hwyluso Gwasanaeth Galw Heibio
Dyletswyddau yn cynnwys croesawu
pobl, helpu gyda gweithgareddau fel celf a chrefft, ychydig o waith
derbynfa.Gweini diod a byrbrydau. Hefyd maen't yn cynnig cefnogaeth a chyngor ar broblemau sydd yn
effeithio rhai defnyddwyr gwasanaeth.
Subscribe to:
Posts (Atom)