Diddordeb
gwirfoddoli mewn siop? Mae Hosbis yn y
Cartref yn chwilio am weithwyr siop i wahanol leoliadau. Buasai’r tasgau yn cynnwys rhyngweithio efo
cwsmeriaid, sortio a phrisio rhoddion, gweithio ar y til, arddangos nwyddau a
chadw’r siop yn daclus. Am fwy o
wybodaeth cysylltwch efo Carwyn ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
30/10/2014
02/10/2014
Ymgyrchydd Masnach Deg
Mae angen ymgyrchydd gwirfoddol oed 18+ i ymuno efo’u
grwpiau Masnach Deg cymunedol lleol. Mae
ymgyrchwyr Masnach Deg yn defyddio eu sgiliau i unai weithio tuag at neu cadw
gwobr Masnach Deg y gymuned drwy trefnu digwyddiadu, ymweld ag ysgolion i roi
gwybodaeth ayyb. Mae’r rôl yma’n hyblyg
ond mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd Masnach Deg yn cael eu cynnal gyda’r nos
gyda’r gweithgareddau a digwyddiadau yn cael eu cynnal gyda’r nos neu ar y
penwythnos. Am fanylion pellach
cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Asesydd Masnach Deg Ysgol
Mae angen aseswyr gwirfoddol 18 + oed i helpu mwy o
ysgolion yn y DU i ennill y wobr boblogaidd Gwobr Masnach Deg Ysgol. Prif ddyletswydd yr asesydd yw edrych ar
geisiadau ar lein gan ysgolion i weld os maent yn cyrraedd y criteria maen nhw
angen i fod yn Ysgol Masnach Deg ac i roi adborth. Lleolir y cyfle yma o adre ac maen
hyblyg. Am fanylion pellach cysylltwch â
Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwr Gwarchodfa Natur
Rydym
yn chwilio am wirfoddolwr oed 16+ i weithio mewn grŵp gyda gwirfoddolwyr eraill,
i gynorthwyo'r staff cadwraeth gyda’u dyletswyddau o ran rheoli gwarchodfa
natur. Am fanylion pellach cysylltwch
efo Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru – Mentor Busnes
Rydym
yn chwilio am fentor busnes gwirfoddol oed 18+, i gefnogi pobl ifanc rhwng 18-30
oed, sydd yn ddi-waith ac efo diddordeb fod yn hunain cyflogedig. Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar
01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Citizens Online Gwynedd - Tiwtor Sylfaenol y Rhyngrwyd
Mae
angen gwirfoddolwyr 18+ oed i gynorthwyo’r cyhoedd i ddysgu a dallt
elfennau sylfaenol y rhyngrwyd - sut i fynd ar-lein, sut i ddefnyddio ‘search
engines’, ebost a defnydd cyffredinol pob dydd.
Os rydych yn gyfforddus yn defnyddio e-byst, google ac yn mwynhau helpu
eraill, hwn yw’r cyfle i chi! Am fwy o
fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
19/09/2014
Marie Curie Cancer Care - Ysgrifennydd grŵp codi arian
Lleolir
y cyfle yma yn y gymuned. Rhai o’r prif
ddyletswyddau fydd: gwaith gweinyddol,
gwaith cyfrifiadurol, cymryd nodiadau a
rhannu gwybodaeth ar ôl cyfarfodydd.
Mae’r cyfle yma yn addas i unigolion 18 oed neu drosodd.
Am
fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Byd Mary Jones World - Cynorthwyo i redeg canolfan ymwelwyr
Mae Byd Mary Jones yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo i redeg y
ganolfan ymwelwyr.
Y tasgau fydd - Cynorthwyo i agor a chau’r ganolfan. I weithio ar y til. Dangos ymwelwyr o amgylch y ganolfan ac ateb unrhyw gwestiynau.
Am fanylion pellach
cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.comY tasgau fydd - Cynorthwyo i agor a chau’r ganolfan. I weithio ar y til. Dangos ymwelwyr o amgylch y ganolfan ac ateb unrhyw gwestiynau.
Subscribe to:
Posts (Atom)