Mae Tŷ Gwydr yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi rhedeg ein adeilad a prosiectau cymunedol. Rydym yn adeilad adnoddau gydag ystafelloedd cyfarfod ac ystafell therapi sydd ar gael i'w defnyddio gan y gymuned leol.
Rydym yn angen gwirfoddolwyr i ymgymryd â'r swyddogaethau canlynol:
* Cyfro'r dderbynfa, croesawu gwesteion ac ateb ffôn.
* Dyletswyddau gweinyddol sylfaenol gan gynnwys llogi ystafelloedd cyfarfod.
* Cynnal a chadw adeilad (os mai dyna yw eich peth).
* Dyletswyddau glanhau ysgafn, tacluso a chadw'r adeilad yn daclus.
Mae angen i wirfoddolwyr fod yn ddibynadwy, yn gyfeillgar, yn agored eu meddwl, sy'n gallu gweithio'n annibynnol a gyda sgiliau sylfaenol TG a'r rhyngrwyd.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
13/02/2015
Y Gymdeithas Strôc - Cyfaill Caffi
Bydd cyfeillion caffi yn cynnig cymorth a chyngor mewn lleoliad lleol lle gall pobl sydd wedi goresgyn strôc brynu bwyd a'u diod eu hunain. Bydd hyn yn helpu i leihau unigrwydd cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch yr unigolion sydd wedi goroesi. Gall y gwirfoddolwyr drefnu amrywiol weithgareddau yn y lleoliad neu wahodd unigolyn arall i ddod i wneud gwaith crefft neu roi sgwrs. Am fwy o fanylion cysylltwch a Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
12/02/2015
Hwylusydd Grwp Cefnogi Bipolar
Mae
Bipolar UK yn chwilio am wirfoddolwyr i hwyluso Grwp Cefnogi Bipolar yng
ngogledd sir Gwynedd. Er mwyn bod yn hwylusydd grwp, bydd angen i wirfoddolwyr
unai wedi cael diagnosis Bipolar uniongyrchol eu hunain neu wedi cael profiad a
gwybodaeth am rywun sydd gyda Bipolar.
Mae
Grwpiau Cefnogi Bipolar UK ar gyfer unigolion sydd gyda bipolar gan gynnwys cyn
ac ar ôl diagnosis, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae grŵp cefnogi yn cynnig
amgylchedd diogel lle gall pobl ddysgu mwy am bipolar, rhannu gwybodaeth ac elwa
o gefnogaeth cyfoed. Mae'r Grwpiau Cefnogi yn cyfarfod unwaith y mis am 2 awr.
Bydd
angen i wirfoddolwyr dderbyn gwiriad DBS manwl cyn dechrau gwirfoddoli. Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Breast Cancer Care Cymru - Gwirfoddolwyr 'Headstrong' (18+ oed)
Mae Breast Cancer Care Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr 'Headstrong'. Bydd y rôl yn cynnwys:
Meningitis Now - Gwirfoddolwr casgliadau tun
Mae'r rôl yma yn ein helpu i gasglu rhoddion yr ydym yn derbyn pob
blwyddyn trwy ein tuniau casglu. Mae'r rhoddion hyn yn ein helpu i barhau â'r
gwaith a wnawn.
Fel Cydlynydd Casglu Tun, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno tuniau
codi arian Meningitis Now i fusnesau yn
eich ardal leol. Mae hyn yn cynnwys casglu tuniau newydd a gwagio a bancio yr
arian a godwyd. Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com
Meningitis Now - Gwirfoddolwr/wraig Codi Arian
A
oes gennych ychydig o oriau i'w sbario bob ychydig fisoedd? A hoffech helpu i
godi arian i sefydliad sy'n ymroddedig i achub bywydau ac ailadeiladu dyfodol?
Os
felly, yna mae'r cyfle yma i chi.
13/01/2015
Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru – Cyfieithydd Gwirfoddol y iaith Gymraeg
Rydym
yn chwilio am wirfoddolwr i gyfieithu deunydd o Saesneg i Gymraeg i gefnogi ein
Cynllun Iaith Cymraeg. A ydych yn siarad
Cymraeg yn rhugl efo sgiliau ysgrifennu ardderchog? Oes gennych lefel A neu radd yn yr iaith
Gymraeg? Oes gennych ddealltwriaeth o’r
sector wirfoddol? Am fwy o fanylion
cysylltwch â Carwyn Humphreys ym Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Relate Cymru – Gwirfoddolwyr Canolfan Cyswllt Plant
Rydym
yn chwilio am wirfoddolwyr i fod yn gyfaill a gwirfoddolwyr cefnogol i
wasanaeth cyswllt plant ym Mangor.
Dyletswyddau'r gwirfoddolwyr fydd i baratoi lluniaeth a darparu lleoliad
diogel a niwtral i’r teuluoedd fynychu.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn Humphreys ar 01286 672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
Subscribe to:
Posts (Atom)