Mae
Bipolar UK yn chwilio am wirfoddolwyr i hwyluso Grwp Cefnogi Bipolar yng
ngogledd sir Gwynedd. Er mwyn bod yn hwylusydd grwp, bydd angen i wirfoddolwyr
unai wedi cael diagnosis Bipolar uniongyrchol eu hunain neu wedi cael profiad a
gwybodaeth am rywun sydd gyda Bipolar.
Mae
Grwpiau Cefnogi Bipolar UK ar gyfer unigolion sydd gyda bipolar gan gynnwys cyn
ac ar ôl diagnosis, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae grŵp cefnogi yn cynnig
amgylchedd diogel lle gall pobl ddysgu mwy am bipolar, rhannu gwybodaeth ac elwa
o gefnogaeth cyfoed. Mae'r Grwpiau Cefnogi yn cyfarfod unwaith y mis am 2 awr.
Bydd
angen i wirfoddolwyr dderbyn gwiriad DBS manwl cyn dechrau gwirfoddoli. Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com