Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

19/01/2016

Aelod grwp casglu arian - RNIB


Ydych chi am fod yn rhan o dîm cyfeillgar a bywiog? Allech chi helpu i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau? Gallai'r rhain gynnwys partïon te, casgliadau o siopau, cwisiau tafarn, rafflau neu unrhyw beth arall y teimlwch y byddai hyn yn ffordd hwyliog o godi arian yn eich cymuned. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig sy'n llawn syniadau i ymuno â Grŵp Codi Arian yn eich cymuned leol. 

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Mynychu cyfarfodydd Grŵp Codi Arian .; Helpu i drefnu a rheoli digwyddiadau; bod yn wyneb i'r RNIB; adeiladu perthnasau

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

18/01/2016

Aelod Tim - CitizensOnlineGwynedd


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau galw heibio - ble y bydd aelodau o'r cyhoedd yn galw draw am gyngor neu help gyda phroblem ddigidol - sut i fynd ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd cyffredinol bob dydd. Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, dim ond pobl sy'n mwynhau helpu pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd pob dydd o'r rhyngrwyd. Byddwch yn rhan o dîm a fydd yn rhoi cwpl o oriau o amser yn y gymuned i ateb ymholiadau cyffredinol ac i gynnig cymorth gyda phroblemau sylfaenol y bydd dechreuwyr yn dod ar eu traws.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Llyfrifwr - Clwb Gymnasteg Bangor


Mewnbynnu holl anfonebau gwerthiant, anfonebau pryniant, incwm gwerthiant, taliadau ar y meddalwedd cyfrifo (SAGE).

Cysoni incwm a threuliau ar y meddalwedd
Cysoni arian parod
Cysoni 'sales ledger & purchase ledger'
Mnewbynnu gwariant cyfalaf ar y feddalwedd cyfrif
Gategoreiddio costau yn eu lle cywir
Croniadau a rhagdaliadau
Cylchgrawn dibrisiant
Darpariaeth treth gorfforaeth 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cymunedol gyda Cymorth i Ddioddefwyr


Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i ddioddefwyr trosedd am ddim.   Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi i ymweld â defnyddwyr y gwasanaeth yn eu cartrefi  (neu fan cyfarfod arall addas) er mwyn rhoi cefnogaeth emosiynol a chyngor ymarferol iddynt.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com 

14/01/2016

Siaradwr Cyhoeddus - Cymru 9468 RNIB


Rydym yn chwilio am siaradwyr cyhoeddus hyderus i siarad i amrywiaeth o gynulleidfaoedd a cynrychioli ni mewn digwyddiadau lleol . Eich rôl chi fydd ymgysylltu , hysbysu ac ysbrydoli eraill i godi arian neu rhoi arian i wneud bywydau pobll ddall a rhannol ddall yn well. 

Beth fyddwch chi'n ei wneud ?

Bod wyneb i RNIB ; Adeiladu perthnasau ; Siarad â grwpiau ysgolion, busnesau a ; Mynychu Cyflwyniadau a digwyddiadau ; Codi Ymwybyddiaeth o'r RNIB .  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Sooty Box – 9469


A ydych yn gyfeillgar ac yn hyderus? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â'n tîm i ymweld â siopau, tafarndai a chanolfannau hamdden yn eich cymuned leol. Mae angen gwirfoddolwyr i ddod o hyd i gartrefi ar gyfer erin blychau, blychau gwag a osodir yn barod ac yn helpu i gydlynu ein gwirfoddolwyr Box Sooty.  Oherwydd gofynion yswiriant, mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i wneud y rôl hon. 

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Adeiladu perthnasau gydag adwerthwyr lleol; Rhoi blychau casglu mewn mannau gwerthu a gytunwyd; Dod o hyd i leoliadau newydd ar gyfer blychau casglu; cyfrif, cofnodi a bancio arian.  Efallai gennych ddiddordeb mewn annog perchnogion / rheolwyr i osod bocs casglu Sooty newydd. Fel arall, gallech gasglu blychau Sooty presennol sy'n llawn a'u disodli gyda blychau newydd a chyfrif yr arian sydd wedi cael ei rhoi yn garedig gan y cyhoedd.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

12/01/2016

Mentor “Through the Gate” – PACT


Mae Pact yn elusen annibynnol uchel ei barch, yn gweithio ledled Cymru a Lloegr i ddatblygu a darparu amrywiaeth o wasanaethau arloesol drwy ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol i garcharorion, eu teuluoedd ac i gyn-droseddwyr. O ganlyniad i ddatblygu cyfres o bartneriaethau strategol llwyddiannus, mae is-gwmni, Pact Futures, wedi cael ei ddewis yn ddiweddar fel darparwr dewisol o Wasanaethau Ailsefydlu. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfuniad o waith achos 1-1 ar gyfer troseddwyr sy'n ailsefydlu o'r carchar i'r gymuned a sesiynau galw heibio /  grwpiau cymorth. Er mwyn cyflwyno'r prosiect hwn rydym yn gofyn am dîm o mentoriaid gwirfoddol "Through the Gate".  Oedran – 18+
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd on 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

05/01/2016

Cynorthwyydd Sesiynau Hwyl - Cynnal Gofalwyr


Mae Cyngor Gofalwyr yn fudiad sy'n cefnogi rhieni a gofalwyr di-dâl dros 18 oed yn Ogledd Orllewin Cymru.

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu cynnal sesiynau hwyl Cynnal Gofalwyr.

Mi fydd angen gefnogi rhieni a phlant a phobl ifanc hefo anghenion ychwanegol drwy wneud crefftau, chwarae a chynnig cefnogaeth a gwybodaeth i rieni. 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com