Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

12/04/2016

Arweinwyr ac cynghorthwywyr - Beaver Scouts yn Bethesda


Dyma adran newydd o fewn y grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ymddiriedolwr/aig - Cyfeillion Cadw Tremadog


Mae'r prif ddyletswyddau yn cynnwys bod yn aelod gweithgar o'r Bwrdd Llywodraethu, penderfynu pa brosiectau i'w datblygu - adeiladau, cyhoeddiadau, goruchwylio prosiectau, cyllidebau, codi arian, gwerthu llyfrynnau + taflenni, ymgyrchu, cefnogi ffeiriau Tremadog mewn diwrnodau agored, digwyddiadau codi sbwriel, dewis contractwyr ar gyfer gwaith cynnal a chadw , cwrdd cynllunwyr, danfon taflenni i gartrefi, paratoi adroddiad a chyfrifon blynyddol / goruchwylio'r paratoadau.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Derbynfa - Gisda


Mae Gisda angen gwirfoddolwr yn y dderbynfa i gyfarch ymwelwyr ac ymateb i'w hanghenion, ateb galwadau ffon a'u trosglwyddo neu cymryd negeseuon, sicrhau bod pawb yn arwyddo mewn ac allan, cadw'r dderbynfa yn lan a thaclus, cynorthwyo'r cydlynydd gweinyddiaeth gyda rhai tasgau.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

01/04/2016

Gwirfoddolwr grŵp – Gwerin y Coed


Mae Gwerin y Coed yn angerddol am ymgysylltu â'r gymuned ac addysg ar gyfer newid cymdeithasol, yn enwedig gyda phobl ifanc. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i ddarparu rhaglen o weithgareddau hwyliog ac addysgol gyda'n grwpiau (3-15yrs oed) ym Mhenrhyndeudraeth.

Mae ein prosiect cyfredol 'Natur Wyllt', hefyd yn cynnwys cyfleoedd cyffrous i wirfoddoli a ennill sgiliau ym maes cadwraeth, dehongli treftadaeth, yr economi werdd a menter chydweithredol, yn seiliedig ar y warchodfa natur YNGC 'Gwaith Powdwr'.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626/gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cydlynydd tiniau casglu – Breast Cancer Care


Mae canser y fron yn newid popeth. Mae Breast Cancer Care yn deall yr emosiynau, heriau a phenderfyniadau mae pobl yn eu gwynebu bob dydd. Dyna pam ein bod yn darparu gofal, cymorth a gwybodaeth o'r diwrnod cyntaf. Ni allwn wneud hyn ein hunain. Os ydych yn berson hyderus gyda gwybodaeth dda o'ch cymuned leol, gallwch ein helpu i godi ein proffil ac arian hanfodol trwy osod tuniau casglu!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Codi Arian - GISDA


 
I wirfoddoli i gynorthwyo gyda'r gwaith o godi arian i GISDA.

 •    Cynorthwyo’r Swyddog Busnes a Marchnata i drefnu a chydlynu gwaith o godi arian I GISDA
•     Meddwl m syniadau newydd o ffyrdd o godi arian
•     Gallu i drefnu digwyddiadau pan mae’r galw yn codi
•     Cynorthwyo’r Swyddog Busnes a Marchnata i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo codi arian at waith GISDA
•     Bod yn barod i wirfoddoli mewn digwyddiadau codi arian.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cynorthwyydd Glanhau SGLEIN



I wirfoddoli yn fenter gymdeithasol SGLEIN yn cwblhau tasgau cyffredin glanhau mewn amryw o adeiladau yn cynnwys swyddfeydd, siopau a thai gan gefnogi pobl ifanc a gwirfoddolwyr eraill.  Am fwy o fanylion am y cyfle gwirfoddol yma, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu drwy e-bostio gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Grwpiau Rhieni - GISDA


Cynorthwyo’r cefnogwr teulu/mentor cyfoed i drefnu a chydlynu’r grwpiau rhieni, ymuno a’r grwpiau rhieni, cyfathrebu gyda’r rhieni a’u plant, i feddwl am syniadau newydd o weithgareddau i’r grŵp rhieni, i fod yn gyfeillgar a hyderus o fewn y grŵp, i gymryd rhan yn y gweithgareddau a drefnir.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626/gwirfoddoli@mantellgwynedd.com