Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

12/04/2016

Ymddiriedolwr/aig - Cyfeillion Cadw Tremadog


Mae'r prif ddyletswyddau yn cynnwys bod yn aelod gweithgar o'r Bwrdd Llywodraethu, penderfynu pa brosiectau i'w datblygu - adeiladau, cyhoeddiadau, goruchwylio prosiectau, cyllidebau, codi arian, gwerthu llyfrynnau + taflenni, ymgyrchu, cefnogi ffeiriau Tremadog mewn diwrnodau agored, digwyddiadau codi sbwriel, dewis contractwyr ar gyfer gwaith cynnal a chadw , cwrdd cynllunwyr, danfon taflenni i gartrefi, paratoi adroddiad a chyfrifon blynyddol / goruchwylio'r paratoadau.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com