Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

12/04/2016

Cymhorthydd Cofnodion – Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Pwrpas rôl yma i'w helpu archaeolegwyr a'r cyhoedd i gael defnyddio cofnodion archaeolegol sydd ddim ar gael mewn format digidol ar hyn o bryd. Rydym angen gwirfoddolwyr i helpu sganio dogfennau a lluniau archaeolegol, defnyddio cyfrifiadur i drefnu cofnodion ac ychwanegu data perthnasol i gofnodion digidol.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Cefnogol Dementia RED– Cymdeithas Alzheimer’s


Byddwch yn gyfrifol am weithredu fel cynrychiolydd o Gymdeithas Alzheimer yn allanol drwy gynnal cysylltiadau gyda meddygfeydd teulu. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar lafar ac yn ysgrifenedig a phrofiad o ddarparu gwybodaeth a chymorth. Bydd Mannau Gwybodaeth yn cael eu lleoli a'i staffio mewn meddygfeydd teulu. Bydd  'Canolfan Pwynt Gwybodaeth Dementia Care RED ' yn helpu pobl sy'n poeni am neu gyda dementia, eu gofalwyr / teuluoedd a phobl eraill berthnasol i gael gwybodaeth a chyfeiriadau priodol i wasanaethau cymorth cymunedol sy'n darparu cymorth mawr ei angen. Darparu gwybodaeth i unigolion trwy ddosbarthu gwybodaeth a chyfeirio'n briodol i gefnogi pobl i fyw yn dda gyda gwasanaethau cymorth cymunedol dementia.  Helpu pobl sy'n pryderu am eu hunain neu gof rhywun arall i ymdopi a deall y cyflwr yn well.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Byw'n Annibynnol - Cynllun 'Adref o'r Ysbyty' Y Groes Goch


Mae ein cynllun 'Adref o'r Ysbyty' yn anelu at helpu pobl i ailsefydlu yn eu cartrefi yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty. Fel gwirfoddolwr Byw'n Annibynnol byddwch yn ymgymryd â gwahanol dasgau gan gynnwys asesu pa anghenion sydd gan y defnyddwyr gwasanaeth i gludo defnyddwyr adref gan sicrhau bod ganddynt cyflenwadau bwyd angenrheidiol. Gall dim ond dwy awr yr wythnos wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd siop – Tenovus

 
Mae hon yn rôl ble fyddwch yn gwneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid yn cael y profiad siopa gorau posibl. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod y siop yn edrych yn dda ac bod ein cwsmeriaid yn gwybod beth yw mae eu cefnogaeth yn golygu i'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Mae'n rôl prysur lle un munud byddwch yn didoli trwy ein bagiau o roddion i'r llall gan yn stemio, hongian ac prisio'r nwyddau i'w gwerthu. Byddwch hefyd yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwerthu ein stoc am brisiau cywir - efallai y bydd angen ymchwilio i arwerthiannau cist car (car boot) a nwyddau tebyg ar eBay hefyd. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Profiad Ymwelwyr - STORIEL

 
Oes gennych diddordeb mewn celf a hanes?  Oes gennych ychydig o oriau yn rhydd yn ystod yr wythnos neu’r mis?  Bydd cyfle i unigolion ymuno â ni wrth gefnogi staff Storiel  i gynnig y profiad gorau y gallwn i bawb.  Nid oes angen dealltwriaeth helaeth am hanes a chelf, oherwydd bydd hyfforddiant ar gael.  Bydd cyfarfod a chefnogi ymwelwyr yn elfen fawr o’ch rôl, ac mi fydd cyfle i gyfarfod pobl o led-led y byd, felly bydd sgiliau rhyngbersonol yn hanfodol.  Rydym yn chwilio am hwyluswyr i’r orielau hanes, orielau celf, y siop,     derbynfa, y pwynt gwybodaeth i twristiaid a'r gofod dysgu.  Rydym yn chwilio am cefnogaeth ar dydd Mercher 11-5yh a 9-9yh bellach erbyn diwedd mis Ebrill, dydd Iau, Gwener a Sadwrn 11-5yh. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gyrrwr – Cwn Tywys (Guide Dogs for the Blind)

Gyrru cleientiaid, cŵn a/neu offer i wahanol lefydd.

Danfon ein cleientiaid, ein cŵn a’n hoffer i lefydd yn eich cerbyd eich hun neu yng ngherbyd elusen Guide Dogs. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Ras Lliwiau 8fed o Fai 2016 - Hosbis Dewi Sant


A fuasech yn hoffi helpu gwirfoddoli gyda'r Ras Liwiau, Dydd Sul 8fed o Fai 2016 ar draeth Glan-Y-Don / Abererch, Pwllheli. Rydym angen help gyda taflu powdr, cofrestru ac marsialiaid maes parcio. Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn tystysgrif am ei cefnogaeth. Bydd yr arian yn cael ei ail-fuddsoddi yn yr ardal Dwyfor er mwyn cyfrannu at wasanaeth gofal diwedd oes.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Arweinwyr ac cynghorthwywyr - Beaver Scouts yn Bethesda


Dyma adran newydd o fewn y grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com