Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

12/04/2016

Gwirfoddolwr Byw'n Annibynnol - Cynllun 'Adref o'r Ysbyty' Y Groes Goch


Mae ein cynllun 'Adref o'r Ysbyty' yn anelu at helpu pobl i ailsefydlu yn eu cartrefi yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty. Fel gwirfoddolwr Byw'n Annibynnol byddwch yn ymgymryd â gwahanol dasgau gan gynnwys asesu pa anghenion sydd gan y defnyddwyr gwasanaeth i gludo defnyddwyr adref gan sicrhau bod ganddynt cyflenwadau bwyd angenrheidiol. Gall dim ond dwy awr yr wythnos wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com