Mae Clywed y
Cyn-guddiedig yn brosiect tair blynedd a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y
Loteri. Rydym yn casglu straeon 80 o bobl sy’n gysylltiedig â chwe safle ysbyty
arhosiad hir blaenorol ledled Cymru, ac yn gwneud gwaith ymchwil mewn llyfrgelloedd
ac archifau lleol, er mwyn ystyried sut roedd pobl ag anabledd dysgu yn cael eu
cynorthwyo mewn lleoliadau ysbyty mawr. Bydd
y cyfle hwn i fod yn Wirfoddolwr Arddangosfa yn canolbwyntio ar ysbyty Bryn y
Neuadd yn Llanfairfechan.
Rydym yn
chwilio am Wirfoddolwyr Arddangosfa i gynorthwyo gwaith prosiect Clywed y
Cyn-guddiedig Mencap Cymru a helpu i roi materion hanesyddol anabledd dysgu a
phrosiect Clywed y Cyn-guddiedig ym mhen blaen meddyliau pobl. Ynghyd â Gwirfoddolwyr Arddangosfa eraill, byddwch
yn defnyddio cyfweliadau ac ymchwil sydd wedi cael eu casglu i ddylunio
arddangosfa yn yr Amgueddfa Storiel newydd sbon ym Mangor.
Gweithgaredd
‘one-off’: 28ain Ebrill – 1af Tachwedd 2016