Bydd
Cynorthwywyr Addysgol yn gweithio ochr yn ochr â'r Cyfarwyddwr Gweithrediadau i
gyflwyno sesiynau dan do ac awyr agored i bobl ifanc sy'n dioddef o anfantais
gan eu helpu i ennill hyder, sgiliau cyfathrebu, cymwysterau a sgiliau
ymarferol fydd yn gwella eu rhagolygon yn y dyfodol. Byddant yn gweithio gyda
defnyddwyr gwasanaeth mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person heb farnu,
gwrando ar eu hanghenion, materion a dyheadau a sicrhau bod ethos WITH yn cael
ei barchu bob amser.
Mae'r rôl yn
cynnwys llawer iawn o weithgarwch corfforol ac felly ni fyddai'n addas ar gyfer
unigolion ag anawsterau symudedd.
Oedran: 18+