Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

06/09/2016

Cynrychiolydd Ysbyty Gwynedd – Tenovus


  
Mae Tenovus yn cynnig cymorth, cyngor a thriniaeth i gleifion canser a'u hanwyliaid. Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn heb eich help.
 
Mae gennym hanes hir o gefnogi cleifion a'u teuluoedd sy'n mynychu Ysbyty Gwynedd. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gynrychioli Gofal Cancr Tenovus drwy hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth canser a derbyn cyfeiriadau.  Mae’r rôl yma yn addas i bobl oed 18+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Cynorthwy-ydd Siop – Ambiwlans Awyr Cymru (Bangor)


 
Cynorthwyo gyda gwaith siop cyffredinol - gweithio ar y til, cadw'r siop yn lân ac yn daclus, yn edrych ar ôl y stoc, gwasanaethu cwsmeriaid.  Mae’r cyfle yma yn addas i oed 16+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Gwirfoddolwr Adborth Iechyd Meddwl facebook ac Celfyddydau – Fledgling Arts Collective Central



Bydd eich rôl yn cynnwys rhyngweithio gydag aelodau ar-lein yn rhoi adborth gan ddefnyddio'r fforwm Facebook ar eu prosiectau celfyddydau creadigol mewn ffordd adeiladol gadarnhaol. Bydd cael ymagwedd greadigol , cadarnhaol ac adeiladol yn bwysig ar gyfer y rol yma.  Mae’r cyfle yma yn addas i oed 15+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Garddwyr gwirfoddol – UDEVELOPIT C.I.C


 

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig fyddai'n gallu ymrwymo i gynorthwyo i glirio a sefydlu gardd cegin fawr ar Stad y Faenol, Bangor. Mae'r ardal ar hyn o bryd wedi gordyddu a bydd y gwaith cychwynnol  yn cynnwys clirio  a pharatoi ar gyfer ardal tyfu planhigion/llysiau. Nid oes angen profiad blaenorol ond byddwn yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd gyda profiad yn y maes hwn.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

30/08/2016

Cynllun Gwirfoddolwyr Ifanc– WITH


 
Mae cynllun Gwirfoddolwyr Ifanc WITH i bobl ifanc rhwng 14-25 oed.  Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i berson ifanc weithio gyda gweithiwr cefnogol gwirfoddol pob dydd Sadwrn rhwng 2pm-4pm i gwblhau tasgau hanfodol i redeg y fferm.  Gyda chefnogaeth, bydd gwirfoddolwyr yn gweithio drwy gwrs gofal ceffylau ymarferol a sgiliau gwirfoddoli.  Bydd y cwrs yn galluogi’r person ifanc ennill sgiliau a phrofiadau maent angen i wirfoddoli yn annibynnol efo WITH neu fudiadau arall lleol yn y dyfodol.  Nid oes angen profiad blaenorol. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Addysg yn yr Awyr Agored – Elfennau Gwyllt


 
Mae addysg yn ganolig i actifeddau Elfennau Gwyllt.  Gall hyn fod drwy rhaglenni Ysgol Coedwg, sesiynau saethyddiaeth, cynllwyniau chwarae neu actifeddau creft maes i oedolion.  Anelwn i ddysgu gymaint o bobl yng Ngolgedd Cymru am fyd natur a byw yn iach ac sy'n bosib.  I wneud hyn rydym angen help gwirfoddolwyr brwdfrydig, sydd yn mwynhau dysgu sgiliau newydd yn yr awyr agored a phasio'r sgiliau yma i bobl eraill.  Wrth wirfoddoli fel hyn, byddwch yn helpu i gadarnhau ein bod yn dosbarthu sesiynau bydd pobl yn cofio ac yn mwynhau.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Safle– Elfennau Gwyllt


 
Mae Elfennau Gwyllt yn defyddio coetir naturiol ar gyfer ein digwyddiadau, ac mae angen llawer o waith cynnal a chadw i gadw’r safleodd yn saff i ddefnyddio yn ystod yn cynlluniau chwarae.  Dyna pam mae yna dîm o wirfoddolwyr Elfennau Gwyllt sydd yn helpu i drefnu ein safleoedd.  Mae’r gwirfoddolwyr yma yn hanfodol i sicrhau fod Elfennau Gwyllt yn rhedeg sesiynau saff, a fod pawb yn hapus ar ein safleoedd. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Garddio – Elfennau Gwyllt


 
Mae yna fwy i Elfnennau Gwyllt na’r Ysgol Goedwig a cynlluniau chwarae.  Rydym yn cydweithio a’r gymuned lleol i greu priosectau garddio sy’n helpu i gyfoethogi’r gymuned mewn ffyrdd syml na fysa’n bosib heb y cyfle yma.  Mae Elfennau Gwyllt yn berchen ar llain sydd angen gofal rheolaidd, a hoffwn eich help chi i wneud hyn.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com