Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

06/09/2016

Cynrychiolydd Ysbyty Gwynedd – Tenovus


  
Mae Tenovus yn cynnig cymorth, cyngor a thriniaeth i gleifion canser a'u hanwyliaid. Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn heb eich help.
 
Mae gennym hanes hir o gefnogi cleifion a'u teuluoedd sy'n mynychu Ysbyty Gwynedd. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gynrychioli Gofal Cancr Tenovus drwy hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth canser a derbyn cyfeiriadau.  Mae’r rôl yma yn addas i bobl oed 18+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.