Mae Rhododendron (Rhododendron ponticum) yn rhywogaeth
ymledol yng Nghymru. Mae'r Dref Werdd yn clirio'r rhywogaetha ymledol o dir
busnes lleol, Llechwedd. Mae’r Dref Werdd yn brosiect cymunedol amgylcheddol
ariennir gan y Loteri yn ardal Bro Ffestiniog. Un o nifer o brosiectau gan Y
Dref Werdd yw 'Prosiect Rheoli a Chlirio Rhododendron’ sy'n bwriadu clirio
ardaloedd lle mae Rhododendron yn bresennol. Ein nod yw rhyddhau i'r ardal o
hyn rhywogaethau ymledol drwy dorri'r canghennau yn defnyddio llifiau bwa a
offer tocio. Digwyddiad ‘one-off’ yw hwn
rhwng 5ed – 9fed Rhagfyr 2016. Am
fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
09/11/2016
Gwirfoddolwyr Siop (Pwllheli, Y Bala a Bermo) - Tenovus Cancer Care
Mae ein siopau yn codi arian hanfodol i'n helpu i gefnogi
cleifion canser a'u hanwyliaid. Fodd bynnag, ni allent wneud hyn heb gymorth
ein gwirfoddolwyr rhyfeddol.
Os ydych yn chwilio i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned
leol, i ennill rhywfaint o brofiad manwerthu neu i wneud ffrindiau newydd, gall
wirfoddoli gyda ni fod yn gyfle gwych i chi.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwy Siop – Amrywiol, Porthmadog - Tenovus Cancer Care
Mae ein siopau yn codi arian hanfodol i'n helpu i gefnogi
cleifion canser a'u hanwyliaid. Fodd bynnag, ni allent wneud hyn heb gymorth
ein gwirfoddolwyr rhyfeddol.
Os ydych eisau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, ennill
rhywfaint o brofiad manwerthu neu gwneud ffrindiau newydd, gall wirfoddoli hefo
ni fod yn gyfle gwych. Mae gennym ddigon o rolau a allwch helpu hefo. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwyr Garddio - Wild Elements
Mae yna fwy i Elfennau Gwyllt na’r Ysgol Goedwig a
chynlluniau chwarae. Rydym yn cydweithio
â’r gymuned leol i greu priosectau garddio newydd sy’n helpu i gyfoethogi’r
gymuned mewn ffyrdd syml. Mae Elfennau
Gwyllt yn berchen ar dir sydd angen gofal rheolaidd a hoffwn eich help chi i
wneud hyn. Am fanylion pellach, cysylltwch
â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwyr Marchnata - Wild Elements
Rhan o waith Elfennau
Gwyllt yw cyrraedd at pobl newydd. Rydym
yn ceisio ymgysylltu gyda phobl sydd ddim yn cysidro eu hunain fel pobl awyr
agored a’u denu at fyd natur. Er mwyn
cyflawni hyn rydym angen pobl sydd â'r gallu i gysylltu gyda'r cyhoedd a’u
diddori yn ein gwaith. Mae angen i ni fedru cyfathrebu a chyrraedd unigolion
wyneb yn wyneb a thros y we. Trwy
wirfoddoli ar gyfer y rôl hon, byddwch yn helpu Elfennau Gwyllt i gyrraedd at
gymaint o bobl â phosib gan sicrhau bod ein digwyddiadau yn cael eu marchnata
a'u hysbysebu'n dda. Mae’r cyfle yma yn
addas i wirfoddolwyr 16+ oed. Am
fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu
gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwyr Addysg Awyr Agored - Wild Elements
Mae addysg yn ganolog i weithgareddau Elfennau
Gwyllt. Gall hyn fod drwy ein rhaglenni
Ysgol Goedwig, sesiynau saethyddiaeth, cynlluniau chwarae neu gweithgareddau
creftau i oedolion. Rydym yn anelu i
ddysgu cyn gymaint o bobl yng Ngolgedd Cymru am fyd natur a byw'n iach ac sy'n
bosib. Er mwyn cyflawni hyn, rydym angen
gwirfoddolwyr brwdfrydig sy'n mwynhau dysgu sgiliau newydd yn yr awyr agored a
throsgwlyddo'r sgiliau yma i bobl eraill.
Trwy wirfoddoli gyda ni, byddwch yn ein cynorthwyo i sicrhau ein bod yn
cynnal sesiynau y bydd pobl yn mwynhau a chofio. Mae’r cyfle yma yn addas i oedran 16+. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwyr safle - Wild Elements
Mae Elfennau Gwyllt yn defnyddio safleoedd coediwg ar
gyfer ein digwyddiadau ac mae llawer o waith cynnal a chadw ar y safleodd fel
eu bod yn ddiogel i'w defnyddio yn ystod cynlluniau chwarae. Mae tîm o wirfoddolwyr gan Elfennau Gwyllt
sy'n cynorthwyo ar y safleoedd yma. Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i sicrhau bod
sesiynau Elfennau Gwyllt yn ddiogel ac fod pawb yn hapus ar ein safleoedd. Mae’r cyfle yma yn addas i oed 16+. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
02/11/2016
Rhoi llety am noson neu ddwy i'r Digartref - Digartref Cyf
A oes gennych loft sbar?
Rydym angen gwirfoddolwyr i gynnig llety i bobl ifanc (16
- 25 mlwydd oed) mewn argyfwng. Mae
angen ystafell wely sbar, pryd gyda'r nos a brecwast (ad-delir costau) am noson, dwy neu dair.
Bydd Digartref yn cynnig £15 y noson + costau teithio i
wirfoddolwyr.
Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 21+. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Subscribe to:
Posts (Atom)