Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

09/11/2016

Gwirfoddolwyr Marchnata - Wild Elements


Rhan o waith Elfennau Gwyllt yw cyrraedd at pobl newydd.  Rydym yn ceisio ymgysylltu gyda phobl sydd ddim yn cysidro eu hunain fel pobl awyr agored a’u denu at fyd natur.  Er mwyn cyflawni hyn rydym angen pobl sydd â'r gallu i gysylltu gyda'r cyhoedd a’u diddori yn ein gwaith. Mae angen i ni fedru cyfathrebu a chyrraedd unigolion wyneb yn wyneb a thros y we.  Trwy wirfoddoli ar gyfer y rôl hon, byddwch yn helpu Elfennau Gwyllt i gyrraedd at gymaint o bobl â phosib gan sicrhau bod ein digwyddiadau yn cael eu marchnata a'u hysbysebu'n dda.  Mae’r cyfle yma yn addas i wirfoddolwyr 16+ oed.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com