Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/08/2017

Cynorthwyydd Archwilio Manwerthu – Tenovus Cancer Care


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu i archwilio ein siopau yn eich ardal leol. Mae'r arian a godir gan ein siopau yn hanfodol i'n galluogi i gefnogi cleifion canser a chyllido ymchwil canser. Bydd eich cefnogaeth yn helpu ni i sicrhau bod ein siopau yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithiol, drwy hynny gallwn helpu hyd yn oed mwy o bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Ymddiriedolwr gyda CEIM / MHAS – Cynllun Eiriolaeth Iechyd Meddwl


• Ymddiriedolwr - diddordeb mewn datblygu strategaeth
• Ymddiriedolwr - diddordeb mewn rheoli cyllid / adnodd dynol (HR)
• Ymddiriedolwr - diddordeb mewn datblygu gweithgareddau gwirfoddoli ‘cyfeillion’. 

Dyma gyfleoedd gwych i ddatblygu sgiliau mewn datblygu strategaeth, rheoli cyllid neu ddatblygiad gwirfoddoli a gwneud cyfraniad positif i elusen iechyd meddwl. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr cwn tywys (18+) – Cymdeithas Cwn Tywys Gwynedd


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd yn awyddus i gefnogi perchnogion cwn tywys yng Ngwynedd.  Pwrpas y rôl yw cefnogi'r unigolion a mynd a'u cwn tywys am dro yn wythnosol.

Y gwirfoddolwyr fydd yn mynd â'r cwn am dro am oddeutu 45munud i awr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r cwn redeg yn rhydd mewn lle saff.  Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chymorth ar gyfer y rôl yma. Mae hwn yn rôl addas os ydych yn berchen ar gi eich hun neu gyda profiad o ymdrin â chwn neu os hoffech profiad o ymdrin â chwn. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Colli Clyw (Live Well) – Action on Hearing Loss


Helpwch ni drwy ddod yn Wirfoddolwr Colli Clyw Live Well.

Ymunwch â ni a defnyddio eich amser sbâr i helpu pobl i ddod i delerau o golli eu clyw a thrwy hynny byw'n fwy hapus gyda'u colled. Gwnewch ffrindiau newydd, dysgu am golli clyw a helpu pobl yn eich ardal leol. Dewiswch un o'r rolau isod a chysylltwch â ni:

Gwybodaeth ac Eiriolaeth, Ymgynghorydd Offer, Arbenigwyr Offer. Rhoddir hyfforddiant llawn a thelir treuliau. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Canolfan Croeso Ymwelwyr – RSPB Conwy


Byddwch yn darparu croeso cyfeillgar ac addysgiadol i bob ymwelydd, yn ysbrydoli am fywyd gwyllt a'r RSPB. Bydd y tasgau'n cynnwys: Croesawu ymwelwyr i'r warchodfa a sicrhau eu bod yn gwybod ble i fynd ar y warchodfa i weld ein bywyd gwyllt a mwynhau'r llwybrau, ymgysylltu a theuluoedd a rhoi unrhyw wybodaeth y bydd ei angen arnynt e.e. taflenni llwybrau tymhorol, cardiau bingo bywyd gwyllt, bod yn llysgennad i'r RSPB, annog cefnogaeth trwy aelodaeth a chyflawni recriwtio aelodaeth, helpu i ateb unrhyw ymholiadau a darparu gwybodaeth. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gwyllt dros Fyd Natur (18+) – RSPB Conwy


Rydym eisiau ysbrydoli ymwelwyr â gwarchodfa natur RSPB Conwy gyda bywyd gwyllt ac annog teuluoedd i archwilio byd natur. Mae angen eich help chi arnom i ymwneud ag ymwelwyr i ddarganfod byd natur e.e. drwy eu hannog i edrych drwy delesgop o un o’r cuddfannau, rhoi cyfle i blant fynd ar helfa chwilod, ac yn syml i dynnu sylw at rai o’r elfennau natur anhygoel y gallwch eu gweld wrth ymyl y llwybrau. Profiad ysbrydoledig o fyd natur.

Dyma eich cyfle i fod allan yn y warchodfa, cwrdd â llawer o bobl newydd a sgwrsio â nhw am natur, eu diddori a’u hysbrydoli. Bydd modd i chi ddefnyddio eich sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â dysgu pethau newydd am waith yr RSPB. Byddwch yn mynd adref yn gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth, drwy sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad hynod gadarnhaol yn y warchodfa natur a helpu i gefnogi’r RSPB drwy annog pobl newydd i ymaelodi.

Mae RSPB Conwy wedi cael cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i gefnogi’r cyfle gwirfoddoli hwn.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Sesiynau Addysg Amgen (16+) – Gisda


- Dilyn polisïau a gweithdrefnau'r cwmni
- Cefnogi staff i gynnal sesiynau llwyddiannus
- Cefnogi myfyrwyr i gwblhau eu llyfrau gwaith
- Rhoi cymorth 1: 1 i fyfyrwyr sy'n agored i niwed
- Ehangu ymwybyddiaeth o gyrsiau addysg amgen megis rheoli dicter, magu hyder a chamddefnyddio sylweddau
- Cynyddu ymwybyddiaeth o'r sesiynau addysg amgen o fewn ysgolion / disgyblion ysgol 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Codi Arian – Gisda


I wirfoddoli i gynorthwyo gyda'r gwaith o godi arian i GISDA 

 • Cynorthwyo’r Swyddog Busnes a Marchnata i drefnu a chydlynu gwaith o godi arian I GISDA
• Meddwl m syniadau newydd o ffyrdd o godi arian
• Gallu i drefnu digwyddiadau pan mae’r galw yn codi
• Cynorthwyo’r Swyddog Busnes a Marchnata i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo codi arian at waith GISDA
• Bod yn barod i wirfoddoli mewn digwyddiadau codi arian. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com