Rydym eisiau ysbrydoli ymwelwyr â gwarchodfa natur RSPB
Conwy gyda bywyd gwyllt ac annog teuluoedd i archwilio byd natur. Mae angen
eich help chi arnom i ymwneud ag ymwelwyr i ddarganfod byd natur e.e. drwy eu
hannog i edrych drwy delesgop o un o’r cuddfannau, rhoi cyfle i blant fynd ar
helfa chwilod, ac yn syml i dynnu sylw at rai o’r elfennau natur anhygoel y
gallwch eu gweld wrth ymyl y llwybrau. Profiad ysbrydoledig o fyd natur.
Dyma eich cyfle i fod allan yn y warchodfa, cwrdd â
llawer o bobl newydd a sgwrsio â nhw am natur, eu diddori a’u hysbrydoli. Bydd
modd i chi ddefnyddio eich sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â dysgu pethau newydd
am waith yr RSPB. Byddwch yn mynd adref yn gwybod eich bod wedi gwneud
gwahaniaeth, drwy sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad hynod gadarnhaol yn y
warchodfa natur a helpu i gefnogi’r RSPB drwy annog pobl newydd i ymaelodi.
Mae RSPB Conwy wedi cael cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y
Loteri i gefnogi’r cyfle gwirfoddoli hwn.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com