Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
02/05/2012
NYAS (National Youth Advocacy Service)
Ymwelwyr Annibynnol
Mae NYAS yn elusen sydd yn darparu gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth a chynrychiolaeth gyfreithiol i blant a phobl ifanc. Mae angen ymwelwyr annibynnol gwirfoddol i gyfeillio plentyn neu berson ifanc mewn gofal gyda'r nod o ddatblygu cyfeillgarwch tymor hir a pherthynas agos gydag oedolion. Byddai gwirfoddolwyr yn fodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau o ddewis y plentyn (neu berson ifanc) ac yn ysgrifennu adroddiadau byr am yr ymweliadau.
Darperir hyfforddiant i wirfoddolwyr - sydd gyfwerth â NVQ lefel 3. Byddai gofyn i'r gwirfoddolwr allu cynnig tua 3 awr y mis.
07/03/2012
Cyfeillion Ellis Wynne, Harlech
Cyfle gwych i dywys ymwelwyr o amgylch y Lasynys Fawr, Harlech.
Byddwch yn rhugl yn y Gymraeg ac yn hyderus i siarad yn gyhoeddus. Mae gwybodaeth am Ellis Wynne/hanes Cymru yn fanteisiol ond darperir hyfforddiant o safon uchel ar hanes Elis Wynne.
Amser gofynnol 1-4 y p’nawn.
20/02/2012
Cymhorthydd Chwarae
Cymhorthydd Chwarae
Mae Fforwm Chwarae Gogledd Orllewin Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i oruchwylio a hwyluso plant (5 - 14) yn chwarae allan - gan gynorthwyo i greu awyrgylch dda a hwyliog.
Yng Ngwynedd, mae'r cyfleoedd ar gael yng Nghricieth, Caernarfon a Llandderfel ar hyn o bryd.
Subscribe to:
Posts (Atom)