Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
27/07/2012
06/07/2012
27/06/2012
Hafal - Ty Adferiad
Yn cefnogi a grymuso pobl gyda cyflyrau iechyd meddwl dwys.Cefnogwr gwirfoddol dan hyfforddiant eu hangen i roi help llaw yn Nhy Adferiad ym Mhorthmadog. Fe fydd y wirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant ac yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau gyda defnyddwyr y gwasanaeth yn ogystal a gwneud gwaith ty cyffredinol.
Cysylltwch heddiw am fwy o fanylion.
Helpu yng Nghaffi Canolfan Cyfiawnder Troseddol, Caernarfon
Mae'r caffi yn cael ei redeg gan Age Cymru er mwyn codi arian i helpu pobl hyn yn ein cymdeithas.
Y gwirfoddolwr i helpu drwy ddarparu bwyd, gweini diodydd poeth ac oer, cleirio byrddau a glanhau y llestri a cadw pobman yn lan a thaclus. Darperir hyfforddiant ar Hylendid Bwyd.
02/05/2012
GEIDIAU CRICCIETH
Geidiau Criccieth
Mae'r Geidiau yn cyfarfod ar nos Iau a Gwener ar ôl ysgol. Mae angen arweinydd cynorthwyol a/neu rywun allai helpu gyda gwaith crefft, gemau a gweithgareddau awyr agored. Darperir Hyfforddiant da iawn.NYAS (National Youth Advocacy Service)
Ymwelwyr Annibynnol
Mae NYAS yn elusen sydd yn darparu gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth a chynrychiolaeth gyfreithiol i blant a phobl ifanc. Mae angen ymwelwyr annibynnol gwirfoddol i gyfeillio plentyn neu berson ifanc mewn gofal gyda'r nod o ddatblygu cyfeillgarwch tymor hir a pherthynas agos gydag oedolion. Byddai gwirfoddolwyr yn fodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau o ddewis y plentyn (neu berson ifanc) ac yn ysgrifennu adroddiadau byr am yr ymweliadau.
Darperir hyfforddiant i wirfoddolwyr - sydd gyfwerth â NVQ lefel 3. Byddai gofyn i'r gwirfoddolwr allu cynnig tua 3 awr y mis.
07/03/2012
Cyfeillion Ellis Wynne, Harlech
Cyfle gwych i dywys ymwelwyr o amgylch y Lasynys Fawr, Harlech.
Byddwch yn rhugl yn y Gymraeg ac yn hyderus i siarad yn gyhoeddus. Mae gwybodaeth am Ellis Wynne/hanes Cymru yn fanteisiol ond darperir hyfforddiant o safon uchel ar hanes Elis Wynne.
Amser gofynnol 1-4 y p’nawn.
Subscribe to:
Posts (Atom)