Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

26/01/2016

Gwirfoddolwyr 'Headstrong' - Breast Cancer Care Cymru


·    Dangos i gleientiaid sut i wneud y mwyaf o hetiau, sgarffiau, a darnau gwallt fel dewis arall i wigiau
·    Rhoi cyngot i gleientiaid ar sut i ofalu am eu gwallt a chroen y pen yn ystod triniaeth
·    Cynnig cefnogaeth emosiynol priodol i gleientiaid a sicrhau eu bod yn ymwybodol o wasanaethau cenedlaethol a lleol eraill a allai fod yn ddefnyddiol iddynt, gan gynnwys cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill pan fo hynny'n briodol
·    Hyrwyddo HeadStrong a gwasanaethau Gofal Cancr y Fron eraill yn y gymuned leol, gan gynnwys dosbarthu taflenni a rhoi sgyrsiau ac arddangosiadau anffurfiol
·    Sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth trwy gynorthwyo gyda thasgau gweinyddol

Oedran 18 +
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

 

Gwirfoddolwyr (nifer o rolau) – Cymdeithas MS (Gwynedd a Môn)


Rydym yn chwilio am amrywiaeth o bobl yn bennaf i helpu gyda gwaith gweinyddol, creu cylchlythyrau, hyrwyddo gweithgareddau cangen ar-lein, ymgyrchu a chodi arian. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n gallu gweithio ar liwt eu hunain. 

Mae rolau ar gyfer aelodau'r pwyllgor hefyd, gan gynnwys rôl trysorydd sydd angen sgiliau TG ynghyd â'r angen i fynychu cyfarfodydd pwyllgor (a gynhelir ar Ynys Môn gyda'r nos).

Rydym yn agored i awgrymiadau ac yn hapus i fod yn hyblyg i gyd-fynd ag anghenion gwirfoddolwyr. 

Mae hyfforddiant ar gael hefyd.

Oedran 18 +
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwydd mewn caffi – Harlech and Ardudwy Leisure


Cymeryd bwyd allan
Glanhau y byrddau ayyb
Golchi llestri ac eu cadw yn daclus
Gwneud te a coffi
Gweini cwsmeriaid
Defnyddio y til
Glanhau cyffredinol 

Oedran – 16 +
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

19/01/2016

Gwirfoddolwyr Rhwydwaith Gymunedol - RNIB


Ydych yn mwynhau bod yn rhan o'ch cymuned leol? Allwch chi ein helpu i godi ymwybyddiaeth o'n gwaith ac ein helpu i recriwtio gwirfoddolwyr yn eich ardal leol? Rydym angen i chi ymweld â chanolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, siopau, eglwysi a digwyddiadau i rhoi taflenni gwybodaeth a phosteri a siarad â phobl am wirfoddoli ar gyfer RNIB.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Adeiladu perthnasau gydag adwerthwyr lleol; Helpu i drefnu digwyddiadau; Cysylltu â sefydliadau; bod yn wyneb i'r RNIB; Siarad â grwpiau ysgolion, busnesau a codi ymwybyddiaeth o  RNIB. 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod grwp casglu arian - RNIB


Ydych chi am fod yn rhan o dîm cyfeillgar a bywiog? Allech chi helpu i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau? Gallai'r rhain gynnwys partïon te, casgliadau o siopau, cwisiau tafarn, rafflau neu unrhyw beth arall y teimlwch y byddai hyn yn ffordd hwyliog o godi arian yn eich cymuned. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig sy'n llawn syniadau i ymuno â Grŵp Codi Arian yn eich cymuned leol. 

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Mynychu cyfarfodydd Grŵp Codi Arian .; Helpu i drefnu a rheoli digwyddiadau; bod yn wyneb i'r RNIB; adeiladu perthnasau

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

18/01/2016

Aelod Tim - CitizensOnlineGwynedd


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau galw heibio - ble y bydd aelodau o'r cyhoedd yn galw draw am gyngor neu help gyda phroblem ddigidol - sut i fynd ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd cyffredinol bob dydd. Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, dim ond pobl sy'n mwynhau helpu pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd pob dydd o'r rhyngrwyd. Byddwch yn rhan o dîm a fydd yn rhoi cwpl o oriau o amser yn y gymuned i ateb ymholiadau cyffredinol ac i gynnig cymorth gyda phroblemau sylfaenol y bydd dechreuwyr yn dod ar eu traws.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Llyfrifwr - Clwb Gymnasteg Bangor


Mewnbynnu holl anfonebau gwerthiant, anfonebau pryniant, incwm gwerthiant, taliadau ar y meddalwedd cyfrifo (SAGE).

Cysoni incwm a threuliau ar y meddalwedd
Cysoni arian parod
Cysoni 'sales ledger & purchase ledger'
Mnewbynnu gwariant cyfalaf ar y feddalwedd cyfrif
Gategoreiddio costau yn eu lle cywir
Croniadau a rhagdaliadau
Cylchgrawn dibrisiant
Darpariaeth treth gorfforaeth 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cymunedol gyda Cymorth i Ddioddefwyr


Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i ddioddefwyr trosedd am ddim.   Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi i ymweld â defnyddwyr y gwasanaeth yn eu cartrefi  (neu fan cyfarfod arall addas) er mwyn rhoi cefnogaeth emosiynol a chyngor ymarferol iddynt.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com