Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/02/2017

Ymwelwyr cartref- prosiect 'Byw'n Dda gyda Colli Clyw' – Action on Hearing Loss


Nod y prosiect yw sicrhau y gall pobl yng Ngogledd Cymru fyw yn dda gyda cholli clyw. Gwneir hyn drwy gefnogi pobl yn eu cartrefi er mwyn dysgu sut i ddefnyddio offer cynorthwyol. Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru ac Action on Hearing Loss felly bydd gwirfoddolwyr yn cael eu cofrestru gyda'r ddau sefydliad.

Bydd y dyletswyddau y rôl yn cynnwys-

• Dysgu sut mae cyfarpar cynorthwyol yn gweithio
• Gwneud ymweliadau cartref i bobl sydd wedi colli eu clyw
• Helpu pobl sydd wedi colli eu clyw i ddysgu sut i ddefnyddio offer cynorthwyol
• Cyfeirio at sefydliadau eraill
• Rhoi cyngor i bobl ar faterion colled 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mynd â Throli Rownd Ysbyty- gyda'r nos (5pm-8pm)- Ysbyty Gwynedd Royal Voluntary Service


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda darparu gwasanaeth troli yn Ysbyty Gwynedd sy'n cynnig byrbrydau, deunydd darllen a sgwrsio’n gymdeithasol gyda’r cleifion.       

Dyma ffordd grêt i ffrindiau a chyplau wirfoddoli fel tîm neu’n unigol er mwyn helpu i wasanaethu pawb sydd mewn ysbyty  yn staff a chleifion.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mynd â Throli Rownd Ysbyty -Pnawn (12.30-3pm)- Ysbyty Gwynedd– Royal Voluntary Service


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda darparu gwasanaeth troli yn Ysbyty Gwynedd sy'n cynnig byrbrydau, deunydd darllen a sgwrsio’n gymdeithasol gyda’r cleifion.       

Dyma ffordd grêt i ffrindiau a chyplau wirfoddoli fel tîm neu’n unigol er mwyn helpu i wasanaethu pawb sydd mewn ysbyty  yn staff a chleifion.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mynd â Throli Rownd Ysbyty - Ysbyty Gwynedd – Royal Voluntary Service


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda darparu gwasanaeth troli yn Ysbyty Gwynedd sy'n cynnig byrbrydau, deunydd darllen a sgwrsio’n gymdeithasol gyda’r cleifion.        

Dyma ffordd grêt i ffrindiau a chyplau wirfoddoli fel tîm neu’n unigol er mwyn helpu i wasanaethu pawb sydd mewn ysbyty  yn staff a chleifion.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwyliwr Arfordirol – National Coastwatch Institution Porthdinllaen


Gwylwyr yw llygaid a chlustiau ar hyd ein harfordir sy'n cadw golwg,  monitro sianeli radio a gwneud defnydd llawn o'n ysbienddrych a telesgopau, offeryniaeth tywydd a chyswllt ffôn gyda Gwylwyr y Glannau Caergybi. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddoli Dramor– Raleigh ICS


Mae Raleigh International eisiau pobl ifanc i wirfoddoli dramor gyda ICS (International Citizen Service), rhaglen datblygu sy'n cael ei ariannu'n llawn gan lywodraeth y DU.

Raleigh International sy'n cyflwyno ICS yn Nepal, Tanzania a Nicaragua, ac mae rhaglenni yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn.

Mae ICS yn anelu at sicrhau tri pheth: effaith y prosiect, datblygiad personol gwirfoddolwyr a chreu dinasyddion gweithredol .

Yn 18-25oed? Ydych yn ddinasyddion y DU neu'r UE  sydd wedi bod yn byw ym Mhrydain am o leiaf 12 mis? Gwnewch cais fel gwirfoddolwr erbyn diwedd mis Chwefror am le yn un o'n lleoliadau haf am gyfnod o 10 wythnos.

Yn 23-35 oed? Gwnewch cais fel arweinydd tîm. Lleoliadau yn para rhwng 14 wythnos i 8 mis.

Mannau ar gael ar y lleoliadau canlynol:

Nepal, 18 Mehefin - 26 Awst 2017 a 22 Mehefin - 30 Awst 2017
Nicaragua, 23 Mehefin - 31 Awst 2017 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cludiant Cymunedol Royal Voluntary Service


Mae gwirfoddolwyr yn defynddio ceir ei hunain i gludo pobl hyn lleol i'w helpu fyw yn annibynol yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys darparu cludiant i apwyntiadau meddygol, grwpiau neu glybiau, i'r siop lleol neu i ymweld a theulu a ffrindiau.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com