Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/02/2017

Gwirfoddoli Dramor– Raleigh ICS


Mae Raleigh International eisiau pobl ifanc i wirfoddoli dramor gyda ICS (International Citizen Service), rhaglen datblygu sy'n cael ei ariannu'n llawn gan lywodraeth y DU.

Raleigh International sy'n cyflwyno ICS yn Nepal, Tanzania a Nicaragua, ac mae rhaglenni yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn.

Mae ICS yn anelu at sicrhau tri pheth: effaith y prosiect, datblygiad personol gwirfoddolwyr a chreu dinasyddion gweithredol .

Yn 18-25oed? Ydych yn ddinasyddion y DU neu'r UE  sydd wedi bod yn byw ym Mhrydain am o leiaf 12 mis? Gwnewch cais fel gwirfoddolwr erbyn diwedd mis Chwefror am le yn un o'n lleoliadau haf am gyfnod o 10 wythnos.

Yn 23-35 oed? Gwnewch cais fel arweinydd tîm. Lleoliadau yn para rhwng 14 wythnos i 8 mis.

Mannau ar gael ar y lleoliadau canlynol:

Nepal, 18 Mehefin - 26 Awst 2017 a 22 Mehefin - 30 Awst 2017
Nicaragua, 23 Mehefin - 31 Awst 2017 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com