Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

26/04/2017

Cynorthwy-ydd gweinyddol ar gyfer digwyddiadau - RSPB Cymru


Mae'r RSPB yn elusen gadwraeth natur mwyaf y wlad. Fel gwirfoddolwyr, byddwch yn gweithio'n agos gyda'n hamserlen digwyddiad ac adeiladu eich sgiliau TG a chyfathrebu. Byddwn yn darparu amrywiaeth o dasgau i chi fel gwirfoddolwr a bydd eich cyfraniad i'r tîm yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Byddwch yn derbyn adborth a chyfeiriadau rheolaidd i'ch cefnogi yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae gwirfoddolwyr ein swyddfeydd yn bwysig i'n helpu gyda'n  gweithrediadau. Gall eich amser a sgiliau wneud gwahaniaeth gwirioneddol i waith yr RSPB a byddai'n wych pe gallech fod yn rhan o'r tîm.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Amgueddfa Dros Dro 12-18 Mehefin -


Cyfle Newydd – Gwirfoddolwyr Amgueddfa Dros Dro 12-18 Mehefin

Lle – Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru

I gefnogi ymwelwyr i'r Amgueddfa Dros Dro yn Eglwys y Santes Fair, Caernarfon o 12-18 o Fehefin blwyddyn yma.  Mi fydd y digwyddiad yn dod a replica o’r Gadair Du I’r dref gan gynnwys fersiwn digidol o’r Llyfr y Cofio RhBC.  Mi fydd ymwelwyr yn allu cael mynediad i wybodaeth am Hedd Wyn, RhBC a fersiwn digidol o’r Llyfr y Cofio.  Mi fydd rhai o’r gwirfoddolwyr ar safle yn trawsgrifio'r enwau olaf o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymraeg I mewn i raglen sydd yn cyfoethogi’r llyfr ar lein ac mi fydd ymwelwyr yn gallu cael cefnogaeth i drawsgrifio enw pwysig, os ydi o ddim wedi ei wneud yn barod, gan hefyd ychwanegu manylion person pwysig o’r cyfnod i mewn i’r wefan Cymru yn y Rhyfel. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Codi arian 'Bucket Bridgade' - Tesco, Bangor -Tenovus Cancer Care


Mae Gofal Canser Tenovus eich angen chi!

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr cyfeillgar a brwdfrydig i'n helpu gyda  bwcedi casglu yn Tesco Bangor. 

Byddwn yno yn codi arian ar gyfer cleifion canser a'u hanwyliaid ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin, 2017 rhwng 10am - 6pm. Byddai unrhyw faint o amser y gallwch ei gyfrannu fod yn wych hyd yn oed os gallwch ond sbario ychydig oriau.

Mae'r cyfle hwn yn gyfle i gwrdd â phobl newydd tra'n codi ymwybyddiaeth o Gofal Canser Tenovus yn eich cymuned leol chi. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddoli yn y Siop / Caffi – Ffarm Moelyci


Mae Blas Lôn Las yn gaffi cymunedol a siop. Rydym yn edrych am wirfoddolwyr i helpu i redeg y siop a caffi. Byddwch yn cael cyfle i gwrdd â chyfarch y gymuned leol blaen ty neu gweithio yn y gegin. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cofnodi Tywydd – Ffarm Moelyci


Rydym yn chwilio am rywun i helpu cofnodi'r tywydd yn ein gorsaf dywydd. Mae'n golygu cofnodi un bore yr wythnos. Mae gynom  9+ mlynedd o ddata tywydd hefyd.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynorthwy-ydd Garddio – Ffarm Meolyci


Helpu gyda tyfu llysiau, perlysiau a blodau. Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â'n grŵp i ddysgu am blannu a chynnal planhigion.
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr canllaw teclyn – Macular Society


Gall byw gyda cyflwr macwlaidd wneud tasgau bob dydd ymddangos yn amhosibl. Fel gwirfoddolwyr y cyfle yma, gallwch gael effaith enfawr ar fywydau pobl drwy ddangos iddynt rai o'r offer syml a rhad sydd ar gael i'w helpu.

Bydd ein cwrs hyfforddiant yn dangos i chi sut i arddangos tecylnau fel 'liquid level indicators' i grwpiau Macular Society a digwyddiadau eraill lleol. Y pwrpas yw dangos sut all pethau mor syml wneud gwahaniaeth mawr.

Gall technoleg newydd drawsnewid bywydau pobl sydd wedi colli eu golwg, ond mae gan rai ofn 'smartphones' a chyfrifiaduron tabled. Os fuasech yn mwynhau helpu pobl sydd gyda nam ar eu golwg ennill hyder gyda thechnoleg,  bydd ein hyfforddiant yn eich helpu i gyflawni hyn.

Bydd angen i chi allu teithio a byddwn yn ad-dalu'r costau i chi. 

Ni fyddwch yn gwerthu offer, ond byddwch yn caniatáu i bobl roi cynnig ar bethau ac egluro ble gallent brynu'r offer neu gael rhagor o wybodaeth. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Siaradwr Gwirfoddol – Macular Society


Gallwch wneud gwir wahaniaeth yn eich cymuned leol drwy godi ymwybyddiaeth o gyflyrau macwlaidd a'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael. Mae siaradwyr gwirfoddol yn cyflwyno sgyrsiau addysgiadol i grwpiau yn eu hardal leol. Bydd angen i chi allu teithio a byddwn yn ad-dalu costau i wirfoddolwyr.

Fel siaradwyr, byddwch yn son am eich profiad eich hun o glefyd macwlaidd, os oes gennych y clefyd eich hun neu os adnabod ffrind neu aelod o'r teulu sydd gyda'r cyflwr.

Ni fydd tâl am y trafodaethau yma -  y nod yw codi ymwybyddiaeth o gyflyrau macwlaidd a gwaith y Gymdeithas Macwlaidd.
 
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com