Gall byw gyda cyflwr macwlaidd wneud tasgau bob dydd
ymddangos yn amhosibl. Fel gwirfoddolwyr y cyfle yma, gallwch gael effaith
enfawr ar fywydau pobl drwy ddangos iddynt rai o'r offer syml a rhad sydd ar
gael i'w helpu.
Bydd ein cwrs hyfforddiant yn dangos i chi sut i
arddangos tecylnau fel 'liquid level indicators' i grwpiau Macular Society a
digwyddiadau eraill lleol. Y pwrpas yw dangos sut all pethau mor syml wneud
gwahaniaeth mawr.
Gall technoleg newydd drawsnewid bywydau pobl sydd wedi
colli eu golwg, ond mae gan rai ofn 'smartphones' a chyfrifiaduron tabled. Os
fuasech yn mwynhau helpu pobl sydd gyda nam ar eu golwg ennill hyder gyda
thechnoleg, bydd ein hyfforddiant yn
eich helpu i gyflawni hyn.
Bydd angen i chi allu teithio a byddwn yn ad-dalu'r costau
i chi.
Ni fyddwch yn gwerthu offer, ond byddwch yn caniatáu i
bobl roi cynnig ar bethau ac egluro ble gallent brynu'r offer neu gael rhagor o
wybodaeth.