Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

26/07/2017

Hospis yn y Cartref - Cynorthwyydd Siop



Mae angen gwirfoddolwyr i helpu yn ein caffi yn Dinas Dinlle.
Bydd gwirfoddolwyr yn paratoi a gweini bwyd.
Cadw'r caffi yn lan ac yn daclus. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Samariaid - Swyddog Marchnata Rhanbarthol (gweithio o adref)

Allwch chi helpu canghennau’r Samariaid yng Nghymru a’r Gororau gyda’u gwaith marchnata a chyhoeddusrwydd? 

Mae arnom angen rhywun â phrofiad o farchnata a/neu gyhoeddusrwydd i gynorthwyo canghennau’r Samariaid i hyrwyddo’r gwaith da maent yn ei wneud! 

Byddwch yn gweithio’n agos â’r canghennau i: 

-Hyrwyddo digwyddiadau
-Cynllunio a chydgysylltu ymgyrchoedd marchnata
-Cymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws y sefydliad
-Sicrhau bod ganddynt y deunyddiau marchnata diweddaraf
-Cynllunio ar gyfer digwyddiadau lleol
-Ymateb i geisiadau gan y cyfryngau

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfleoedd Gwirfoddoli efo Dru Yoga


Mae Dru UK yn darparu hyfforddiant mewn yoga, myfyrfio a datblygu personol. 

Mae angen gwirfoddolwyr i:

- Gynnal a chadw gwefan
- Gyflawni gwaith gweinyddol
- Werthu
- Gynnal a chadw'r tiroedd
- Gyflawni dyletswyddau cegin
- Ffotograffu
- Brawf ddarllen
- Helpu gyda chyllid 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Hospis yn y Cartref - Cynorthwyydd Siop


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu yn ein caffi yn Dinas Dinlle.

Bydd gwirfoddolwyr yn paratoi a gweini bwyd.

Cadw'r caffi yn lan ac yn daclus.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cymdeithas Maciwlar - Gwirfoddolwr Dosbarthu 'Macular Matters'

Rydym yn chwilio am nifer o wirfoddolwyr sydd gyda amser i'w sbario i helpu i ddosbarthu ein cylchlythyr 'Macular Matters' ddwywaith y flwyddyn. Mae'r cylchlythyr yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o glefyd macular a chodi arian ar gyfer yr achos. Mae'n cael ei gynhyrchu ym mis Mai a mis Tachwedd. Felly, os allwch sbario ychydig o'ch amser yn ystod y misoedd yma i ddosbarthu'r newyddlen yn eich ardal leol i leoliadau megis clinigau llygaid, meddygfeydd, gwasanaethau golwg gwan, canolfannau iechyd ac ati yna dyma'r cyfle i chi!  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Marie Curie - Llysgennad Cymunedol- Pen Llyn


Fel siaradwr cyhoeddus hyderus, byddwch yn rhoi sgyrsiau am yr elusen ac egluro beth yw ein gwaith. P'un ai'n siarad â chlybiau, cymdeithasau neu ag ysgolion lleol, byddwch yn sicrhau bod pobl leol yn gwybod am y gwasanaethau hanfodol a ddarparwn a sut i’w defnyddio, ac yn helpu i annog gwirfoddoli a chodi arian ar gyfer yr elusen. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Age Connects NW Central - Cefnogwr ‘Speak UP’


Cefnogi ac annog pobl hŷn sy’n agored i niwed i gael yr hyder i siarad drostynt eu hunain mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gan gynnwys cartrefi nyrsio a phreswyl, cartrefi lloches a llety gofal ychwanegol.  Annog ystwythder a hunan-barch ac annog sgiliau hunan eiriolaeth.  Cefnogi pobl hŷn er mwyn sicrhau bod eu hanghenion, eu hawliadau a'u dymuniadau yn cael eu hategu.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Mencap - Gwirfoddolwyr Clwb Ni


Mae Clwb ni Angen gwirfoddolwyr i helpu redeg y clwb sef clwb cymdeithasol i bobl yn Pwllheli hefo anableddau. Mae angen gwirfoddolwyr i helpu wneud gweithgareddau fel arts, canu ac bingo. Mae'r clwb ar agor bob Nos Lun 7-9.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com