Mae arnom angen rhywun â phrofiad o farchnata a/neu gyhoeddusrwydd i gynorthwyo canghennau’r Samariaid i hyrwyddo’r gwaith da maent yn ei wneud!
Byddwch yn gweithio’n agos â’r canghennau i:
-Hyrwyddo digwyddiadau
-Cynllunio a chydgysylltu ymgyrchoedd marchnata
-Cymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws y sefydliad
-Sicrhau bod ganddynt y deunyddiau marchnata diweddaraf
-Cynllunio ar gyfer digwyddiadau lleol
-Ymateb i geisiadau gan y cyfryngau
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com