Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

14/04/2015

Ffotograffydd - Woodland Trust

Mae Ffotograffwyr gwirfoddol yn hanfodol i'n helpu i ymgysylltu ac ysbrydoli pobl am waith yr Ymddiriedolaeth. Maent yn cynhyrchu lluniau rhagorol ar gael mewn amrywiaeth o wahanol gyfryngau, gan gynnwys ein cylchgrawn 'Broadleaf', cylchlythyrau, deunydd ymgyrchu ac wrth gwrs ein gwefan.


Fel un o'n ffotograffwyr, byddwch yn cael cyfres o friffiau gwahanol gyda thasgau. Bydd hyn yn cynnwys tynnu lluniau darlun cryno a allai gynnwys: nodweddion coedwig amrywiol, coedwig sydd o dan fygythiad o ddatblygiad,  rhywogaethau penodol neu hyd yn oed digwyddiad arbennig a drefnwyd gan yr Ymddiriedolaeth.
Mae hwn yn gyfle gwych i chi i gael eich gwaith ffotograffiaeth ei gyhoeddi boed ar lein neu yn ein cyfryngau print. Mae hwn yn gyfle gwych i hogi eich sgiliau ffotograffig a gwneud gwahaniaeth go iawn yn y gadwraeth.


Am fwy o fanylion cysylltwch â Carwyn ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com