Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

21/04/2015

Motor Neurone Disease Association - Ymwelydd Cymdeithas Gwynedd

Fel Ymwelwyr Cymdeithas Gwirfoddol bydd gennych ran hanfodol  i'w chwarae o ran cefnogi pobl gyda clefyd Motor Neuron Disease - rhai gyda'r clefyd a'r rhai sy'n agos atynt. Byddwch yn cynnig cefnogaeth emosiynol gyfrinachol ac am ddim yn ogystal â gwybodaeth am y Gymdeithas a gwasanaethau eraill sy'n helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus. Mae hyn yn helpu i leihau'r ymdeimlad o unigedd i lawer o bobl yr effeithir arnynt gan y clefyd.

Tasgau allweddol yn cynnwys:
• Cynnal a chysylltu dros y ffôn, e-bost neu wyneb-yn-wyneb gyda pobl sy'n byw gyda MND (Motor Neuron Disease)
• Esbonio'r gefnogaeth a'r gwasanaethau y Gymdeithas Leol a sut gall gwasanaethau eraill yn cynnig
• Annog pobl sydd gyda MND i adnabod problemau a sut y gellir eu rheoli
• Cysylltu â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol


Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com