Yr RSPB yw’r elusen cadwraeth natur fwyaf yn y DU. Mae ein hadar, ein bywyd gwyllt a’n
hardaloedd naturiol yn diflannu’n gyflym, ond gyda’n gilydd, gallwn godi'r
arian sydd wir ei angen i achub natur.
Rydym yn gwneud ein gorau i Roi Cartref i Fyd Natur drwy reoli
cynefinoedd, addysg ac eiriolaeth ym maes polisïau. Rydym yn sefydliad brwdfrydig, sy’n dymuno
annog cenedlaethau'r dyfodol i ddangos diddordeb ym mhwysigrwydd bywyd
gwyllt.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig, cymdeithasol
a fydd yn ysbrydoli’r cyhoedd i gefnogi ein gwaith cadwraeth drwy ymgysylltu
â’r cyhoedd a mynd i ddigwyddiadau cymunedol.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com