A ydych chi'n hoffi cyfarfod pobl a chynorthwyo i godi
arian at achos da? Mae Ambiwlans Awyr Cymru angen gwirfoddolwyr i'w helpu yn eu
siop elusen yn Nhywyn, Gwynedd. Bydd disgwyl i chi ddefnyddio'r til, sortio
dillad, prisio eitemau, tacluso'r siop a delio gyda cwsmeriad o ddydd i ddydd. Mae’r cyfle yma yn addas i wirfoddolwyr oed
18+. Am fanylion pellach, cysylltwch â
Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com