Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

12/07/2016

Gwirfoddolwr Profiad Ymwelwyr - Storiel


 


Oes gennych diddordeb mewn celf a hanes?  Oes gennych ychydig o oriau yn rhydd yn ystod yr wythnos neu’r mis?  Bydd cyfle i unigolion ymuno â ni wrth gefnogi staff Storiel  i gynnig y profiad gorau y gallwn i bawb.  Nid oes angen dealltwriaeth helaeth am hanes a chelf, oherwydd bydd hyfforddiant ar gael.  Bydd cyfarfod a chefnogi ymwelwyr yn elfen fawr o’ch rôl, ac mi fydd cyfle i gyfarfod pobl o led-led y byd, felly bydd sgiliau rhyngbersonol yn hanfodol.  Rydym yn chwilio am hwyluswyr i’r orielau hanes, orielau celf, y siop, derbynfa, y pwynt gwybodaeth i twristiaid a'r gofod dysgu.  Cyfle yn addas i oed 14+.

 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com