Rydym yn awyddus i ddod o hyd i wirfoddolwyr a hoffai
dreulio lleiafswm o wythnos ar Enlli yn y cyfnod rhwng Mawrth ac Hydref 2017 i
helpu gydag ystod o brosiectau a thasgau gwahanol.
Gorchwylion yn cynnwys: helpu i gynnal, glanhau a
rheoli’r llety a chyfleusterau i ymwelwyr; peintio ac addurno; gorchwylion
cynnal a chadw cyffredinol ar yr ynys (clirio llwybrau, cynnal a chadw’r
adeiladau, codi cloddiau cerrig sych, garddio ayyb). Mae’r cyfle yma yn addas i berson oed
18+. Am fwy o fanylion, cysylltwch â
Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com