Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

25/04/2018

Gwirfoddolwr Gweithgaredd Ieuenctid - Bangor– Whizz-Kidz Wales


Nod Whiz-Kidz yw trawsnewid bywydau defnyddwyr cadeiriau olwyn ifanc rhwng 2 a 25 oed. Gwnawn hyn trwy ddarparu offer symudedd sy'n newid bywyd, grwpiau ieuenctid cyffrous a hyfforddiant sgiliau cadeiriau olwyn. Weithiau mae cyfleoedd ychwanegol, megis gwirfoddoli mewn gwersyll preswyl.



Gall gwirfoddolwyr ein cefnogi i gyrraedd y nod hwn trwy:



• Cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau

• Arwain neu gyd arwain prif weithgareddau neu dorri iâ os hoffech chi

• Gweithredu fel model rôl gadarnhaol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ifanc

• Sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth ynghyd â gwirfoddolwyr a staff eraill.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com