Mae Forty Voices, Forty Years, yn brosiect treftadaeth
gyffrous sy'n cael ei arwain gan Gymorth i Fenywod yng Nghymru ar y cyd â
Chanolfan Straeon George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru. Nod y prosiect yw
casglu hanes Cymorth i Fenywod Cymru a chofio ein gwaith i orffen trais yn
erbyn menywod, gyda chasgliad o hanesion llafar, storïau digidol, deunyddiau
arddangos ac archif gan ferched a gwasanaethau sydd wedi bod yn allweddol i'n
mudiad yng Nghymru.
Bydd y prosiect yn gwella ein dealltwriaeth o'r mudiad
trais yn erbyn menywod yng Nghymru, a gwella gwybodaeth y gymuned am drais yn
erbyn menywod a'n gwaith i'w atal.
Rydym yn edrych am gefnogaeth gan wirfoddolwyr benywaidd
gyda sgiliau addas a dealltwriaeth o drais yn erbyn menywod yng Nghymru a
diddordeb ganddynt i weithio mewn ardaloedd lleol ledled Cymru i gefnogi'r
Forty Voices, Cyswllt Prosiect Deugain Mlynedd. Rhoddir hyfforddiant llawn. Am
fwy o wybodaeth ewch i www.welshwomensaid.org.uk/joinus neu cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626
neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com