Mae angen cyflenwad rheolaidd o stoc a roddwyd i'n siopau. Mae rhai yn cael eu casglu oddi wrth gwsmeriaid o'u drws ffrynt, rhai a gasglwyd gan fusnesau lleol ac mae rhai yn cael eu symud o un siop i'r llall.
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
21/04/2015
Cymdeithas Alzheimers. Gwirfoddolwyr Cefnogi - codi ymwybyddiaeth o ddementia
Rydym yn chwilio am Wirfoddolwyr Cefnogi i godi ymwybyddiaeth o ddementia. Byddwch yn gyfrifol am gynrychioli Cymdeithas Alzheimer’s yn allanol, gan gynnal cysylltiadau â meddygfeydd Meddygon Teulu. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar aar ba mor aml y cynhelir y gwasanaeth ac ar yr amseroedd. Rydym yn recriwtio nawr ar gyfer meddygfeydd yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Gwirfoddolwr Cefnogol Gofalwyr Ifanc - Gweithredu Dros Blant
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a hoffai wneud gwahaniaeth go iawn i ofalwyr ifanc drwy ddarparu cymorth.
14/04/2015
Ffotograffydd - Woodland Trust
Mae Ffotograffwyr gwirfoddol yn hanfodol i'n helpu i ymgysylltu ac ysbrydoli pobl am waith yr Ymddiriedolaeth. Maent yn cynhyrchu lluniau rhagorol ar gael mewn amrywiaeth o wahanol gyfryngau, gan gynnwys ein cylchgrawn 'Broadleaf', cylchlythyrau, deunydd ymgyrchu ac wrth gwrs ein gwefan.
Arweinydd Lleol - Ymunwch
Y llynedd gwelsom etifeddiaeth Llundain 2012 yn fyw ac yn iach mewn cymunedau ar hyd a lled y DU - dros 11,000 o ddigwyddiadau mewn clybiau chwaraeon lleol a grwpiau cymunedol a thros 100,000 o wirfoddolwyr newydd wedi ymuno ar draws y DU fel rhan o'r 'Ymunwch Haf .
10/03/2015
CAB Gwynedd a Môn - Ymgynghorydd gwirfoddol (16oed +)
Mae Cyngor ar Bopeth (CAB) yn delio gyda nifer o agweddau. Y
rhai mwyaf cyffredin mae pobl yn eu hwynebu sy'n dod i'r canolfannau cynghori
yw dyled, budd-daliadau, materion cwsmeriaid, tai a chyflogaeth.
Bydd cynghorwyr gwirfoddol yn:
1. cyfweld cleientiaid
2.Helpu drwy drafod gyda asiantaethau eraill megis credydwyr
neu darparwyr gwasanaethau
3.Ysgrifennu llythrau
4. Gwneud galwadau ffôn ar ran y cleientiau
5. Cyfeirio at asiantaethau eraill
Ni fydd cynghorwyr gwirfoddol yn cyfweld cleientiaid ar eu
pen eu hunain am y 4 mis cyntaf- byddant yn cysgodi gwirfoddolwyr profiadol yn
y lle cyntaf drwy ddelio â chleientiaid.
CAB Gwynedd a Môn - Ymgynghorwyr llinell gymorth
Ymgynghorwyr llinell gymorth
Y llinell gymorth yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gleientau
CAB.
Bydd y ôl yn cynnwys
1. Delio
gyda amrywiaeth eang o gleientau dros y ffôn
2. Cefnogi
gleientau o bob oed a chefndir
3. Darparu
gwybodaeth i’r cleient
4. Cyfeirio
cleientau at asiantaethau eraill sy’n darparu gwasanaethau arbenigol
5. Cadw
cofnod o achosion gleientau ar fas data
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu Carwyn@mantellgwynedd.com
17/02/2015
Y Groes Goch - Tiwtor
Y
Groes Goch – Tiwtor
Ein
nod yw sicrhau bod ein staff a’n gwirfoddolwyr yn meddu ar y sgiliau y mae
arnynt eu hangen i helpu pobl mewn argyfwng
Allech
chi ein helpu ni i wneud hyn?
Rydym
yn sicrhau bod gan ein pobl y sgiliau y mae arnynt eu hangen i helpu pobl mewn
argyfwng drwy gyflwyno amrywiaeth o gyrsiau sydd wedi’u datblygu’n arbennig.
Caiff
y cyrsiau hyn eu cyflwyno gan diwtoriaid gwirfoddol, a gall y Tiwtoriaid
gyflwyno amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys
•Dysgu
craidd – Diogelu Oedolion, Codi a Chario ayb.
•Byw’n
annibynnol – Amrediad o fodiwlau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
•Cymorth
Cyntaf ac Ymateb brys
Subscribe to:
Posts (Atom)