Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

24/07/2015

Ymddiriedolwr - Cymdeithas Eryri

Mae Cymdeithas Eryri yn gweithio i amddiffyn tirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri er budd y bobl sy’n byw yn neu’n sy’n ymweld â’r parc, ac ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Caiff Cymdeithas Eryri ei rheoli gan Bwyllgor Gweithredol o hyd at 17 o aelodau.  Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am weithredu polisïau cyffredinol a datblygu’r Gymdeithas ymhellach; sicrhau sefydlogrwydd ariannol; penodi staff a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n effeithiol. Dylai ymddiriedolwyr fod ag ymrwymiad i’r Gymdeithas a pharodrwydd i roi’r amser a’r ymdrech sy’n angenrheidiol. 

Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, mewn lleoliad o fewn neu sy’n agos i’r Parc Cenedlaethol.  Mae’r sgiliau canlynol wedi cael eu nodi fel rhai defnyddiol iawn:  ymgyrchu, cynlluniau defnydd tir, ceisiadau cynllunio, pensaernïaeth, etifeddiaeth a chynllunio, amaethyddiaeth, materion cyfreithiol, rheolaeth bersonél, marchnata, TG, cyhoeddiadau, addysg a chodi arian.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Ymwelwyr Annibynnol - Tros Gynnal Plant

Nod cyffredinol Tros Gynnal Plant yw hyrwyddo a diogelu hawliau plant a phobl ifanc sy'n 'derbyn gofal' neu 'mewn angen' ac i alluogi grŵp o blant a phobl ifanc i gael llais mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Trwy ddarparu Ymwelwyr Annibynnol (IVS), mae Tros Gynnal Plant yn anelu at wella ansawdd bywyd i blant a phobl ifanc sy'n 'derbyn gofal'.

Bydd yr Ymwelwyr Annibynnol yn fodelau rôl oedolion sy'n allanol i'r system. Maent yn cyfrannu at ddiogelu ac amddiffyn plant sy'n derbyn gofal a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, a hefyd yn eu cynorthwyo i gael dweud eu dweud.

Mae'r berthynas rhwng Ymwelydd Annibynnol a'r plentyn yn gofyn am ymrwymiad tymor hir. Mae'r Ymwelwyr Annibynnol yn cael eu paru â phlentyn / person ifanc ac fydd yn gyfaill iddynt.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gyrrwr locomotif diesel - Castell Penrhyn

Bydd dylestwyddau'r gwirfoddolwr gyrru locomotif diesel yn cynnwys:

  • Gweithredu'r locomotif Ruston i ymwelwyr deithio arno
  • Gwneud gwiriadau diogelwch sylfaenol a gwiriadau lefel hylif cyn gyrru
  • Cadw at ddogfennau gweithdrefn weithredu a diogelwch ar bob adeg
  • Darparu croeso cynnes a chyfeillgar i'r holl ymwelwyr  Dod yn gyfarwydd â a dilyn Polisi Iechyd a Diogelwch yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar bob adeg
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

21/07/2015

'Arweinwydd rhedeg' - Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Castell Penrhyn

Beth yw 'Arweinydd Rhedeg'?

Mae ein Arweinydd Rhedeg yn helpu i wneud gweithgareddau rhedeg ddigwydd yma yng Nghastell Penrhyn. Byddwn yn eich darparu gyda'r hyfforddiant sydd angen arnoch fel y gallwch arwain eich rhaglen eich hun -  rhaglen rhedeg lefel mynediad. Gyda'ch brwdfrydedd ac agwedd gefnogol, byddwch yn helpu cyfranogwyr yn eich grwp meithrin diddordeb mewn gweithgaredd bywiog.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Cyfleoedd Gwirfoddoli yn Dru Yoga

Mae Dru UK yn darparu hyfforddiant mewn yoga, myfyrfio ac datblygu personol.
Mae angen gwirfoddolwyr  ar gyfer:
  • Cynnal a chadw gwefan
  • Gwaith gweinyddol
  • Gwerthiant
  • Cynnal a chadw
  • Dyletswyddau cegin
  • Ffotograffiaeth
  • Prawf ddarllen
  • Cyllid
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cefnogi Profedigaeth - Cruse Bereavement Care

Mae arnom angen gwirfoddolwyr Cymorth Profedigaeth ar draws Gogledd Cymru ... gallwch CHI helpu i lenwi'r bwlch?

Cefnogaeth gwirfoddol ar gyfer TG, casglu data neu gyfryngau ar y we neu gymdeithasol - Cruse Bereavement Care

Os oes gennych ychydig oriau yr wythnos i sbario at achos da, yna darllenwch ymlaen. Gall eich sgiliau mewn TG helpu i ddarparu cefnogaeth hanfodol i ddarpar gleientiaid, ein partneriaid a'n gwirfoddolwyr ar draws yr Ardal Gogledd Cymru. Dyma rhai enghreifftiau :


Arweinwyr Sgowtiaid a Cynorthwy-ydd Beavers

Dyma adran newydd o fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng 6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com