Mae Cymdeithas Eryri yn gweithio i amddiffyn tirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri er budd y bobl sy’n byw yn neu’n sy’n ymweld â’r parc, ac ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
Caiff Cymdeithas Eryri ei rheoli gan Bwyllgor Gweithredol o hyd at 17 o aelodau. Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am weithredu polisïau cyffredinol a datblygu’r Gymdeithas ymhellach; sicrhau sefydlogrwydd ariannol; penodi staff a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n effeithiol. Dylai ymddiriedolwyr fod ag ymrwymiad i’r Gymdeithas a pharodrwydd i roi’r amser a’r ymdrech sy’n angenrheidiol.
Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, mewn lleoliad o fewn neu sy’n agos i’r Parc Cenedlaethol. Mae’r sgiliau canlynol wedi cael eu nodi fel rhai defnyddiol iawn: ymgyrchu, cynlluniau defnydd tir, ceisiadau cynllunio, pensaernïaeth, etifeddiaeth a chynllunio, amaethyddiaeth, materion cyfreithiol, rheolaeth bersonél, marchnata, TG, cyhoeddiadau, addysg a chodi arian.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com