Nod cyffredinol Tros Gynnal Plant yw hyrwyddo a diogelu hawliau plant a phobl ifanc sy'n 'derbyn gofal' neu 'mewn angen' ac i alluogi grŵp o blant a phobl ifanc i gael llais mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Trwy ddarparu Ymwelwyr Annibynnol (IVS), mae Tros Gynnal Plant yn anelu at wella ansawdd bywyd i blant a phobl ifanc sy'n 'derbyn gofal'.
Bydd yr Ymwelwyr Annibynnol yn fodelau rôl oedolion sy'n allanol i'r system. Maent yn cyfrannu at ddiogelu ac amddiffyn plant sy'n derbyn gofal a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, a hefyd yn eu cynorthwyo i gael dweud eu dweud.
Mae'r berthynas rhwng Ymwelydd Annibynnol a'r plentyn yn gofyn am ymrwymiad tymor hir. Mae'r Ymwelwyr Annibynnol yn cael eu paru â phlentyn / person ifanc ac fydd yn gyfaill iddynt.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com