Mae Pact yn elusen annibynnol uchel ei barch, yn gweithio
ledled Cymru a Lloegr i ddatblygu a darparu amrywiaeth o wasanaethau arloesol
drwy ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol i garcharorion, eu teuluoedd ac i
gyn-droseddwyr. O ganlyniad i ddatblygu cyfres o bartneriaethau strategol
llwyddiannus, mae is-gwmni, Pact Futures, wedi cael ei ddewis yn ddiweddar fel
darparwr dewisol o Wasanaethau Ailsefydlu. Mae hyn yn cynnwys darparu cyfuniad
o waith achos 1-1 ar gyfer troseddwyr sy'n ailsefydlu o'r carchar i'r gymuned a
sesiynau galw heibio / grwpiau cymorth.
Er mwyn cyflwyno'r prosiect hwn rydym yn gofyn am dîm o mentoriaid gwirfoddol
"Through the Gate". Oedran –
18+
Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd on 01286
672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Cofrestru Diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb
12/01/2016
05/01/2016
Cynorthwyydd Sesiynau Hwyl - Cynnal Gofalwyr
Mae Cyngor
Gofalwyr yn fudiad sy'n cefnogi rhieni a gofalwyr di-dâl dros 18 oed yn Ogledd
Orllewin Cymru.
Mae angen
gwirfoddolwyr i helpu cynnal sesiynau hwyl Cynnal Gofalwyr.
Mi fydd
angen gefnogi rhieni a phlant a phobl ifanc hefo anghenion ychwanegol drwy
wneud crefftau, chwarae a chynnig cefnogaeth a gwybodaeth i rieni.
22/12/2015
Gwirfoddolwr grwp / cefnogol (18+) - Derwen
Nod
Derwen yr rhoi cynnig i blant anabl Gwynedd cymryd rhan mewn gweithgareddau
gwahanol.
Mae'r
rol Gwirfoddolwr grwp/cefnogol yn golygu bod yn rhan mewn clwb ieuenctid ar
gyfer plant anabl. Am fanylion pellach
cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Aelod Tim - Helpu pobl sy'n anghyfarwydd â Thechnoleg Ddigidol - CitizensOnlineGwynedd
Mae angen
gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau galw heibio - ble y bydd aelodau o'r
cyhoedd yn galw draw am gyngor neu help gyda phroblem ddigidol - sut i fynd
ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd cyffredinol bob dydd.
Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, dim ond pobl sy'n mwynhau helpu
pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd pob dydd o'r rhyngrwyd. Byddwch yn rhan
o dîm a fydd yn rhoi cwpl o oriau o amser yn y gymuned i ateb ymholiadau
cyffredinol ac i gynnig cymorth gyda phroblemau sylfaenol y bydd dechreuwyr yn
dod ar eu traws. Am fanylion pellach
cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Gwirfoddolwyr Gwarchodfa Natur - NWWT
Cynorthwyo staff
cadwraeth i reoli gwarchodfeydd natur.
Rhai o'r tasgau - bôn docio coed, torri prysgwydd; llosgi deunyddiau;
codi ffensys postyn a gwifren ayyb. Am
fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Arweinwyr Sgowtiaid a Cynorthwy-ydd Beavers
Dyma adran newydd o
fewn grŵp sydd eisoes yn bodoli. Mae Beavers ar gyfer merched a bechgyn rhwng
6-8 mlwydd oed. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael megis Arweinwyr Sgowtiaid
Beaver neu Cynorthwy-ydd Adran Sgowtiaid Beavers . Mae'r rolau yn cynnwys
cynllunio a rhedeg rhaglen amrywiol o gemau a gweithgareddau gyda'r Sgowtiaid
Beaver. Darperir hyfforddiant am ddim a gellir ei achredu gan Rwydwaith y Coleg
Agored. Mae'r Sgowtiaid yn ymwneud â chael hwyl a gwneud ffrindiau newydd,
mae'n wych i wella eich CV a gwneud cyfraniad i fywydau pobl ifanc a'r gymuned
leol. Bydd y grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth ym Methesda rhwng 5.45pm - 6:45pm. Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Cynorthwydd Siop Dolgellau Harri's
Mae'r Hosbis yn rhoi
gofal lliniarol i bobl yng ngogledd orllewin Cymru sydd yn dioddef o salwch
terfynnol. Maent yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd a
diddordeb mewn helpu yn eu siopau elusen - er mwyn codi arian i'r achos teilwng
yma.
Bydd y tasgau yn
cynnwys delio gyda chwsmeriaid; gwneud trefn a phrisio rhoddion; defnyddio'r
til; arddangos y nwyddau; a chadw'r siop yn lân a thaclus. Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Helpu yn y swyddfa - Action on Hearing Loss
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i
gefnogi ein gwasanaethau colli clyw, grwpiau cymdeithasol , prosiectau codi
arian a'r tîm ymgyrchoedd drwy helpu gyda thasgau gweinyddol yn ein swyddfa ym
Mangor. Gall tasgau gynnwys helpu gyda gwaith ymchwil, cofnodi data,
cyfathrebu, y cyfryngau cymdeithasol, ffeilio a thasgau swyddfa cyffredinol
eraill. Am fwy o fanylion cysylltwch â
Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
Subscribe to:
Posts (Atom)