Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/12/2015

Cynorthwydd Siop Dolgellau Harri's


Mae'r Hosbis yn rhoi gofal lliniarol i bobl yng ngogledd orllewin Cymru sydd yn dioddef o salwch terfynnol.  Maent yn  awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sydd a diddordeb mewn helpu yn eu siopau elusen - er mwyn codi arian i'r achos teilwng yma. 

Bydd y tasgau yn cynnwys delio gyda chwsmeriaid; gwneud trefn a phrisio rhoddion; defnyddio'r til; arddangos y nwyddau; a chadw'r siop yn lân a thaclus.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com