Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

22/12/2015

Aelod Tim - Helpu pobl sy'n anghyfarwydd â Thechnoleg Ddigidol - CitizensOnlineGwynedd


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau galw heibio - ble y bydd aelodau o'r cyhoedd yn galw draw am gyngor neu help gyda phroblem ddigidol - sut i fynd ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd cyffredinol bob dydd. Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, dim ond pobl sy'n mwynhau helpu pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd pob dydd o'r rhyngrwyd. Byddwch yn rhan o dîm a fydd yn rhoi cwpl o oriau o amser yn y gymuned i ateb ymholiadau cyffredinol ac i gynnig cymorth gyda phroblemau sylfaenol y bydd dechreuwyr yn dod ar eu traws.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com