Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

01/04/2016

Trysorydd – Cylch Meithrin Seiont a Pheblig


 
Rheolir Cylchoedd Meithrin gan Bwyllgor sydd fel arfer yn cynnwys rhieni sy’n dod a gwahanol sgiliau i’r grwp. Mae Cylch Meithrin Seiont a Pheblig yn un o gylchoedd meithrin mwyaf Gwynedd gyda 52 o blant ar y cofrestr.

Ni fydd angen gwneud gwaith ‘payroll’ gan fod y Cylch yn talu Mudiad Meithrin i wneud hynny  ond bydd angen bod yn gyswllt â Adran Gyflogaeth Mudiad Meithrin yn fisol ar gyfer sicrhau fod cyflogau yn gywir bob mis.

Y prif ddyletswyddau fydd:  cyfrifon taclus, talu anfonebau dan gyfarwyddyd yr arweinydd, bod yn gyswllt gyda Dechrau’n Deg a Cyngor Gwynedd ynglyn â grantiau, darparu’r cyfrifon ar gyfer y cyfrifydd yn flynyddol.  Y cyfle yn addas i wirfoddolwyr oed 18+.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr digwyddiad Balchder Gogledd Cymru 2016


Mae Cymru Pride Wales angen gwirfoddolwyr ar gyfer eu digwyddiad Balchder Gogledd Cymru 2016. Cynhelir yr wyl dros benwythnos Gorffennaf 1af-3ydd 2016 draw yn Neuadd Hendre ar gyrion dinas Bangor. Mae nifer o gyfleoedd ar gyfer unigolion brwdfrydig a fyddai'n hoffi bod yn rhan o'r digwyddiad unigryw yma. Mae gennym amryw o gyfleoedd ar gael gan gynnwys cynorthwywyr maes parcio, cynorthwywyr maes gwersylla, cynorthwywyr y tîm adloniant (croesawu a thywys y cantorion i'r ŵyl a thasgau eraill), cynorthwywyr tîm y dderbynfa/croeso, gwirfoddolwyr holiadur - gofyn am adborth gan westeion yn ystod yr ŵyl gan sicrhau bod eu anghenion yn cael eu diwallu a'u bod yn mwynhau'r digwyddiad, a thasgau cyffredinol eraill. Ar y cyfan, byddwch yn teimlo'n rhan o dîm cyfeillgar ac yn cyfrannu tuag at lwyddiant pedwerydd digwyddiad Balchder Gogledd Cymru!  Y cyfle yn addas i wirfoddolwyr 18+ oed. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu ar 01286 672626

08/03/2016

Stepping Stones - Cydlynydd cymunedol (18+ oed)


 Trefnu a chydlynu gwirfoddolwyr a chefnogaeth gymunedol o fewn y gymuned. Cymryd rôl arweiniol wrth ddatblygu perthynas gyda busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol i godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth yr elusen. Rydym yn chwilio am berson hyderus gyda sgiliau trefnu a phobl ardderchog, Byddai profiad o weithio mewn rôl debyg yn fanteisiol ond nid yn hanfodol. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Stepping Stones - Gwirfoddolwyr casglu arian (18+ oed)


Cefnogi mentrau a digwyddiadau codi arian yn y gymuned i godi proffil yr elusen a rhoddion.

Helpu i sefydlu a staffio mewn cynadleddau. Gweithredu fel llysgennad i'r elusen o fewn y gymuned. Ardaloedd  Wrecsam, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn. 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com.

Gweithredu Dros Blant - Gwirfoddoli i brosiect gofalwyr ifanc


Rhai o agweddau o’r cyfle yma:

Cefnogaeth 1:1
Cefnogaeth grŵp
Cyfrifoldebau gweinyddol a swyddfa
Codi arian
Tripiau seibiant a gweithgareddau 

Mae’r cyfle gwirfoddol yma yn addas i berson oed 18+.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

NYAS - Gwirfoddolwr cyfeillio i berson ifanc


Byddai'r gwirfoddolwr yn cyfeillio person ifanc yn y Bala, trwy eu cynorthwyo ac eu cefnogi i ddarganfod gweithgareddai yn y gymuned yn fisol.  Mae’r cyfle gwirfoddol yma yn addas i berson oed 18+ 

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

03/03/2016

Gwirfoddoli i brosiect gofalwyr ifanc - Gweithredu Dros Blant


Cefnogaeth 1:1
Cefnogaeth grwp
Cyfrifoldebau gweinyddol a swyddfa
Codi arian
Tripiau seibiant a gweithgareddau 

Rôl yn addas i bobl oed 18+
Am fwy o fanylion cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu drwy ffonio 01286 672626

Gwirfoddolwr/wraig gweinyddol – Shelter Cymru


• Gwneud ffeiliau cleientiaid
• Mewnbynnu data ar Casetrack
• Teipio awdio / teipio
• Ateb y ffôn
• Gweithio ar ddesg y dderbynfa
• Archifio
• Gweithgareddau eraill fel y cytunwyd gyda staff 

Rôl yn addas i bobl oed 18+
Am fwy o fanylion cysylltwch ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com neu ar 01286 672626