Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

01/04/2016

Trysorydd – Cylch Meithrin Seiont a Pheblig


 
Rheolir Cylchoedd Meithrin gan Bwyllgor sydd fel arfer yn cynnwys rhieni sy’n dod a gwahanol sgiliau i’r grwp. Mae Cylch Meithrin Seiont a Pheblig yn un o gylchoedd meithrin mwyaf Gwynedd gyda 52 o blant ar y cofrestr.

Ni fydd angen gwneud gwaith ‘payroll’ gan fod y Cylch yn talu Mudiad Meithrin i wneud hynny  ond bydd angen bod yn gyswllt â Adran Gyflogaeth Mudiad Meithrin yn fisol ar gyfer sicrhau fod cyflogau yn gywir bob mis.

Y prif ddyletswyddau fydd:  cyfrifon taclus, talu anfonebau dan gyfarwyddyd yr arweinydd, bod yn gyswllt gyda Dechrau’n Deg a Cyngor Gwynedd ynglyn â grantiau, darparu’r cyfrifon ar gyfer y cyfrifydd yn flynyddol.  Y cyfle yn addas i wirfoddolwyr oed 18+.  Am fwy o fanylion cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com