Mae Cymru Pride Wales angen gwirfoddolwyr ar gyfer eu
digwyddiad Balchder Gogledd Cymru 2016. Cynhelir yr wyl dros benwythnos
Gorffennaf 1af-3ydd 2016 draw yn Neuadd Hendre ar gyrion dinas Bangor. Mae
nifer o gyfleoedd ar gyfer unigolion brwdfrydig a fyddai'n hoffi bod yn rhan
o'r digwyddiad unigryw yma. Mae gennym amryw o gyfleoedd ar gael gan gynnwys
cynorthwywyr maes parcio, cynorthwywyr maes gwersylla, cynorthwywyr y tîm adloniant
(croesawu a thywys y cantorion i'r ŵyl a thasgau eraill), cynorthwywyr tîm y
dderbynfa/croeso, gwirfoddolwyr holiadur - gofyn am adborth gan westeion yn
ystod yr ŵyl gan sicrhau bod eu anghenion yn cael eu diwallu a'u bod yn
mwynhau'r digwyddiad, a thasgau cyffredinol eraill. Ar y cyfan, byddwch yn
teimlo'n rhan o dîm cyfeillgar ac yn cyfrannu tuag at lwyddiant pedwerydd
digwyddiad Balchder Gogledd Cymru! Y
cyfle yn addas i wirfoddolwyr 18+ oed.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mantell Gwynedd ar gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
neu ar 01286 672626