Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

25/10/2016

Gwirfoddolwyr addysg– The Red Squirrel Trust Wales



-Rhoi sgyrsiau i grwpiau i'w galluogi i gymryd rhan
-Mynychu digwyddiadau fel llefarydd ar ran y mudiad
-Dysgu y ffordd orau i ddiogelu gwiwerod coch
-Atgyfnerthu'r pwysigrwydd o gofnodi achosion o weld wiwerod
-Cynghori ar sut y gall pobl gymryd rhan ymhellach
- Mynychu digwyddiadau
-Nid yw'r rôl yma yn gofyn am yr holl gyfrifoldebau uchod- gallwch ddewis pa rai yr hoffech i wneud a phryd.
 
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Rheoli Wiwerod Llwyd – The Red Squirrel Trust Wales



Cynorthwyo gyda gosod trapiau wiwer lwyd
Cynorthwyo gyda ddileu wiwer lwyd
Ymateb i achosion o weld wiwer lwyd
Cofnodi data am wiwer goch
 
Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr/aig monitro wiwer goch - The Red Squirrel Trust Wales




-Monitro a chofnodi achosion o weld wiwer goch

-Gosod trapiau camera

-Monitro trapiau camera

-Codi gorsafoedd bwydo

-Monitro a chofnodi gweithgareddau bwydo

-Sicrhau bod mesurau bioddiogelwch yn eu lle

-Sylwch nad oes angen i chi berfformio pob un o'r gweithgareddau hyn, gallwch ddewis a dethol pa rai yr hoffech eu gwneud. Mae'n ofynnol i chi fynychu digwyddiad hyfforddiant cyn cychwyn y gweithgareddau hyn eich hun.  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 18+.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

18/10/2016

Casgwlyr - mewn siop neu ar y stryd fawr - RNIB



Allwch chi ymuno â ni am ychydig o oriau i godi arian ar gyfer RNIB yn eich siop Tesco leol dros y misoedd nesaf?

Mae casgliadau yn ffordd hwyliog a chymdeithasol i helpu i wneud bob dydd yn well i bobl sydd wedi colli'u golwg.

 

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Helpu gyda chasgliadau bwced, bod yn wyneb i Grŵp RNIB; codi ymwybyddiaeth o Grŵp RNIB.  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Casglwr Apel Mawr y Cenin Pedr (Caernarfon) - Marie Curie


 

Mae Marie Curie yn cynnal nifer o ddigwyddiadau casglu yn yr ardal fel rhan o'u Apêl Fawr Cennin Pedr . Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn gwahanol archfarchnadoedd ac ar y stryd mawr . Er mwyn gwneud y casgliadau hyn yn lwyddiant , rydym yn dibynnu ar bobl i wirfoddoli awr neu ddwy o'u hamser i sefyll gyda'r hambyrddau cennin Pedr a tun casgliad i godi arian fydd yn mynd tuag at cefnogi nyrsys Marie Curie lleol .  Am fwy o fanylion, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwyr Ynys Enlli – Ymddiriedolaeth Ynys Enlli



Rydym yn awyddus i ddod o hyd i wirfoddolwyr a hoffai dreulio lleiafswm o wythnos ar Enlli yn y cyfnod rhwng Mawrth ac Hydref 2017 i helpu gydag ystod o brojectau a gorchwylion parhaol.
 
Gorchwylion yn cynnwys: helpu i gynnal, glanhau a rheoli’r llety a chyfleusterau i ymwelwyr; peintio ac addurno; gorchwylion cynnal a chadw cyffredinol ar yr ynys (clirio llwybrau, cynnal a chadw’r adeiladau, codi cloddiau cerrig sych, garddio ayyb).  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Aelod Grwp Codi Arian - Marie Curie (ardal Porthmadog)


 
Gall grwpiau codi arian fod yn hwyl, ac yn rhoi cyfle go iawn i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Gan weithio'n agos gyda gweddill y grŵp, bydd Aelodau'r Grŵp Codi Arian yn weithredol wrth drefnu casgliadau a digwyddiadau cymunedol yn yr ardal ddaearyddol a gwmpesir gan y Grŵp Codi Arian.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Tiwtor Gwirfoddol EPP Cymru - EPP Cymru


 
Mae EPP Cymru yn fenter GIG sydd yn cyflwyno cyrsiau am ddim i bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd tymor hir a gofalwyr. Mae'n helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd er mwyn gwella ansawdd eu bywydau.
 
Rydym yn gyson yn chwilio am bobl i ymuno â'n tîm o diwtoriaid gwirfoddol i redeg ein cyrsiau yn y gymuned. Mae angen i bob gwirfoddolwr cael brofiad personol o fyw gyda chyflwr iechyd tymor hir neu o fod yn ofalwr ac mae'n rhaid cwblhau cwrs 6 wythnos fel cyfranogwr cyn ei hyfforddiant. Mi fydd hyfforddiant i gyflwyno'r cwrs yn cael ei ddarparu ac fydd treuliau parod yn cael eu had-dalu.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com