Rydym yn awyddus i ddod o hyd i
wirfoddolwyr a hoffai dreulio lleiafswm o wythnos ar Enlli yn y cyfnod rhwng
Mawrth ac Hydref 2017 i helpu gydag ystod o brojectau a gorchwylion parhaol.
Gorchwylion yn cynnwys: helpu i
gynnal, glanhau a rheoli’r llety a chyfleusterau i ymwelwyr; peintio ac
addurno; gorchwylion cynnal a chadw cyffredinol ar yr ynys (clirio llwybrau,
cynnal a chadw’r adeiladau, codi cloddiau cerrig sych, garddio ayyb). Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell
Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com