Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

18/10/2016

Tiwtor Gwirfoddol EPP Cymru - EPP Cymru


 
Mae EPP Cymru yn fenter GIG sydd yn cyflwyno cyrsiau am ddim i bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd tymor hir a gofalwyr. Mae'n helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd er mwyn gwella ansawdd eu bywydau.
 
Rydym yn gyson yn chwilio am bobl i ymuno â'n tîm o diwtoriaid gwirfoddol i redeg ein cyrsiau yn y gymuned. Mae angen i bob gwirfoddolwr cael brofiad personol o fyw gyda chyflwr iechyd tymor hir neu o fod yn ofalwr ac mae'n rhaid cwblhau cwrs 6 wythnos fel cyfranogwr cyn ei hyfforddiant. Mi fydd hyfforddiant i gyflwyno'r cwrs yn cael ei ddarparu ac fydd treuliau parod yn cael eu had-dalu.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com