Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

01/02/2017

Gwirfoddolwyr Gwyl Fwyd Caernarfon 2017 (amryw rolau)– Gwyl Fwyd Caernarfon

1. Stiwardio cyffredinol

2. Cyfeirio'r cyhoedd at beth sy'n mynd ymlaen

3. Dosbarthu rhaglenni a gofyn am gyfraniadau ariannol

4.Ateb cwestiynau ynglyn â'r wyl

5.Bod yn gyfarwydd â chynnwys yr wyl

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Tywysydd/Arweinydd Gwirfoddol ar gyfer teithiau cerdded i bobl gyda nam ar y golwg – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri


Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn trefnu teithiau cerdded ar y 3ydd dydd Mercher o'r mis i bobl gyda nam ar y golwg.  Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd gyda phrofiad o gerdded ac sydd yn adnabod yr ardal yn dda i helpu i drefnu ac arwain y teithiau cerdded.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Cyfeillio / Cefnogi Cyfoedion– Y Gymdeithas Strôc


Fel Gwirfoddolwr Cyfeillio / Cefnogi Cyfoedion byddwch yn cynnig cefnogaeth ar draws ein gwasanaethau Bywyd ar ôl Strôc. Byddwch yn helpu i leihau ynysu cymdeithasol a gwella hyder a hunan-barch goroeswyr strôc.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Gwirfoddolwr Gweinyddol– Tanymaen


I gynorthwyo ein prosiectau gyda gwaith gweinyddol, gan gynnwys cofnodi data, gwneud apwyntiadau cleient, cofnodion calendr, cynnal a diweddaru cofnodion, ffeilio a gwaith ddogfennol arall.

Bydd hyfforddiant llawn ac ad-dalu treuliau parod yn cael eu darparu. Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cynrychiolydd Marchnata Ardal– Undeb Credyd Cambrian


• Sefydlu perthynas gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol
• Canfod dulliau a lleoliadau y daflen dosbarthiadau am ddim
• Cynnal deunydd cyhoeddusrwydd megis byrddau arddangos a thaflenni mewn llyfrgelloedd ac ysgolion
• Os yn barod, mynychu a rhoi cyflwyniadau i sefydliadau perthnasol, yn ôl y galw gan MSAL a MSAO. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Trefnydd Dysgu Gyda’n Gilydd Cymru– Volunteering Matters


Os oes gennych chi sgiliau trefnu neu delio efo pobl da, gallech helpu ein gwirfoddolwyr ni i newid dyfodol plant...

Mae prosiect Dysgu Gyda’n Gilydd Cymru’n recriwtio gwirfoddolwyr ac yn trefnu llefydd iddynt mewn ysgolion ac yn y gymuned, i gefnogi disgyblion wrth ddysgu mewn amrywiaeth o bynciau.  A ydych chi’n gallu rhoi ychydig oriau'r wythnos i helpu gyda threfnu’r prosiect yn eich ardal leol chi?  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com

Cyfleoedd cenedlaethol- India*– Empower – Be The Change


Cefnogi cymunedau a phrosiectau yn Bangalore neu Tamil Nadu.

Addysgu, hyfforddi chwaraeon, cadwraeth a prhosiectau grymuso merched. I gyd yn seiliedig ag elusennau lleol a chyflwyno prosiectau cymunedol gwirioneddol.

*Mae ffioedd yn gymwys ac yn gallu amrywio rhwng £700-£1,400 y mis yn ddibynnol ar y lleoliad yn India

Am ragor o wybodaeth: http://bit.ly/2i5IIza

Gwirfoddolwr Dysgu Cynorthwyol - yng Nghonwy– RSPB


ARDAL CONWY!

Mae gennym interniaeth gwirfoddol o fis Mawrth hyd Medi 2017. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gyflwyno sesiynau ar gyfer grwpiau o hyd at 30 o bobl ifanc o bob oed a gallu drwy gydol ein tymor yr haf. Byddwch yn bennaf yn cyflwyno sesiynau i grwpiau ysgol, ond byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gael profiad o weithio gyda theuluoedd ac oedolion.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com