Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

01/02/2017

Tywysydd/Arweinydd Gwirfoddol ar gyfer teithiau cerdded i bobl gyda nam ar y golwg – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri


Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn trefnu teithiau cerdded ar y 3ydd dydd Mercher o'r mis i bobl gyda nam ar y golwg.  Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd gyda phrofiad o gerdded ac sydd yn adnabod yr ardal yn dda i helpu i drefnu ac arwain y teithiau cerdded.  Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com